Lefel diweithdra yn gostwng ychydig yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
diweithdra

Fe wnaeth nifer y bobl ddi-waith yng Nghymru ostwng o 6,000 yn y tri mis rhwng Ebrill a Mehefin o'i gymharu â'r tri mis cyn hynny.

Mae ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod 62,000 o bobl yn ddi-waith yng Nghymru.

Mae hynny'n 4.1% o'r bobl dros 16 oed, sy'n gyfradd is na'r cyfartaledd ledled y DU o 4.7%.

Ond o gymharu lefelau diweithdra rhwng Ebrill a Mehefin gyda'r un cyfnod yn 2020, mae 21,000 o bobl yn rhagor yn ddi-waith eleni.

Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos bod gostyngiad o 10,000 yn nifer y bobl sydd mewn gwaith o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd.

Mae nifer y di-waith a'r nifer sy'n gyflogedig yn newid ar raddfeydd gwahanol pan fo nifer y bobl sydd ar gael i weithio yn cynyddu neu'n gostwng.

Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos bod 68,000 o swyddi yng Nghymru yn parhau i gael eu hamddiffyn gan gynllun ffyrlo Llywodraeth y DU yn y tri mis hyd at Fehefin 2021.

Ar hyn o bryd mae disgwyl i'r cynllun hwnnw ddod i ben ddiwedd mis Medi.

Pynciau cysylltiedig