Byw bywyd i'r eithaf ar ôl cael trawiad ar y galon
- Cyhoeddwyd
Ar ôl dathlu ei ben-blwydd yn hanner cant ym mis Ionawr 2021, roedd Dilwyn Rowlands o Fangor yn ystyried ei hun yn berson ffit ac iach. Roedd yn rhedeg 20-30 milltir yr wythnos ac roedd yn feiciwr rheolaidd.
Fodd bynnag, wrth feicio gyda'i wraig, Sioned, ar Lwybr Beicio Lôn Eifion ym mis Ebrill 2021 cafodd Dilwyn drawiad ar y galon. Yn fuan ar ôl cael gosod stent yng Nghanolfan Gofal Cardiaidd Gogledd Cymru (NWCC), cafodd brawf geneteg sydd wedi cadarnhau bod ganddo ffurf ddifrifol o Familial hypercholesterolaemia (FH).
Mae'n gyflwr sy'n achosi colesterol uchel iawn, gan arwain at glefyd cynamserol y galon.
Er mwyn dangos ei werthfawrogiad am y gofal y mae Dilwyn wedi'i dderbyn ac yn parhau i'w gael, ym mis Awst 2021 beiciodd 55 milltir o safle'r trawiad ym Mhenygroes i Ganolfan Gofal Cardiaidd Gogledd Cymru, Ysbyty Glan Clwyd, ym Modelwyddan.
Gwyliwch Dilwyn yn cyflawni'r her ac yn rhannu ei stori er mwyn codi arian i elusen.
Hefyd o ddiddordeb: