Ysgolion i ddysgu sgiliau achub bywyd a chymorth cyntaf
- Cyhoeddwyd
Bydd yn ofynnol i ysgolion yng Nghymru ddysgu sgiliau achub bywyd a chymorth cyntaf dan y cwricwlwm cenedlaethol newydd.
Mae'r Gweinidog Iechyd Kirsty Williams wedi gwrthod galwadau yn y gorffennol am wersi CPR gorfodol.
Roedd Sefydliad Prydeinig Y Galon wedi galw am gynnal gwersi dadebru brys ymhob ysgol.
Yn ôl yr Aelod o'r Senedd Ceidwadol Suzy Davies, mae'n "anodd deall pam roedd Llywodraeth Cymru mor wrthwynebol" i'r syniad.
Cafodd gwersi CPR eu hychwanegu i gwricwlwm ysgolion uwchradd yn Lloegr fis Medi'r llynedd, ac mae pob awdurdod lleol yn Yr Alban wedi ymroddi i ddysgu sgiliau achub bywyd mewn ysgolion uwchradd yno.
'Gormod' o lefydd yng Nghymru heb ddiffibriliwr
Fe wnaeth Suzy Davies geisio ychwanegu sgiliau achub bywyd at gwricwlwm newydd Cymru, sy'n dod i rym yn 2022, trwy welliannau i ddeddf sy'n gweithredu'r system newydd.
Ddydd Mercher cafodd y gwelliannau eu cefnogi gan yr AS Llafur Alun Davies, a gafodd ataliad ar y galon y llynedd tra'n rhedeg ym Mharc Biwt yng Nghaerdydd.
"Diffibriliwr wnaeth ailddechrau fy nghalon," dywedodd wrth y Senedd.
Ychwanegodd AS Blaenau Gwent ei fod yn ffodus fod rhywun wedi gallu seiclo i nôl diffibriliwr o goleg lleol "tra bo'r bobl oedd yn gwneud CPR arna'i yn gallu fy nghadw'n fyw tra bod hynny'n digwydd.
"Dyw hynny ddim yn digwydd, ni all ddigwydd, a ni fyddai'n digwydd mewn gormod o rannau o Gymru."
Atebodd Kirsty Williams y byddai'r cwricwlwm statudol yn datgan yn y dyfodol y "dylai [ysgolion] hefyd ystyried pa strategaethau bydd eu dysgwyr eu hangen i allu ymyrryd yn ddiogel i gefnogi eraill all fod mewn perygl".
"Dylai hyn gynnwys sgiliau achub bywyd a chymorth cyntaf," dywedodd wrth y Senedd.
"Rwy'n gobeithio y bydd y geiriad cryfach yma... a fydd yn gwneud hi'n gwbl glir bod hwn yn elfen statudol o'r cwricwlwm i blant a phobl ifanc, yn cyflawni'r hyn rydych chi wedi ymgyrchu drosto am gyfnod hir, Suzy, sef cyfle i gael y sgiliau yma."
Mae Ms Davies, a ollyngodd ei gwelliannau mewn ymateb i ymroddiad y Gweinidog, wedi croesawu'r newidiadau.
Dywedodd: "O sicrhau cefnogaeth drawsbleidiol i hyn yn fy nyddiau cynnar fel Aelod Cynulliad, trwy sawl dadl a chynigion i wahanol weinidogion, ac yna fy neddfwriaeth arfaethedig fy hun a gafodd gefnogaeth aelodau'r Senedd, roedd yn anodd deall pam fod Llywodraeth Cymru mor wrthwynebol.
"Yn y wlad hon, mae ein siawns o oroesi ataliad ar y galon tu hwnt i'r ysbyty mor wael â 10%. Mewn gwledydd ar draws y byd ble mae dysgu CPR a defnyddio diffibriliwr yn orfodol, mae'r ods yna'n gwella'n ddramatig.
"Mae'r sgiliau yma'n sydyn ac yn hawdd i'w dysgu, ac yn hawdd i'w cofio."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2018