'Mae pethau wedi gwella, fi'n teimlo'n gwd'

  • Cyhoeddwyd
David Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Mae David Griffiths yn un sydd wedi elwa o gefnogaeth a mentora i gael swydd a gwella ei fywyd

Mae David Griffiths yn 27 oed ac ers blwyddyn mae wedi dechrau ei swydd gyntaf fel porthor cegin ym mwyty Crwst yn Aberteifi.

Ar ôl blynyddoedd o fod ar fudd-dal fe lwyddodd David i gael y swydd gyda chymorth gan fentoriaid prosiect Cymunedau am Waith a Mwy.

Fe fuon nhw'n helpu David i wella ei CV a'i hyder, a'i hyfforddi i wella ei berfformiad mewn cyfweliadau.

"Maen nhw wedi bod yn grêt help - gwella CV fi a dysgu interview improvements, roedd e'n help mawr," meddai David.

"O'n i ar universal credit ond nawr mae pethau wedi gwella achos bod gen i job a fi ar arian teidi. A fi'n teimlo'n gwd!"

'Llawer iawn' o bobl ifanc

Mae Cymunedau am Waith a Mwy yn brosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru sydd ar gael ym mhob sir ledled Cymru.

Y nod yw cefnogi unigolion sydd eisoes mewn tlodi, neu sydd mewn perygl o dlodi.

Gall y rhai sy'n gymwys i gael cymorth fod yn profi tlodi mewn gwaith, neu gallent fod yn ddi-waith, ar gontract dim oriau, yn byw ar yr isafswm cyflog neu'n ei chael hi'n anodd talu costau misol sylfaenol.

Mae'r prosiect yn darparu cefnogaeth cyflogaeth arbenigol a mentora dwys i bobl.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Delor Evans bod "llawer iawn" o bobl sydd wedi galw am help gan y prosiect yn 16-25 oed

Mae Delor Evans - mentor yng Ngheredigion - yn dweud bod y galw am help gan y prosiect wedi cynyddu o ganlyniad i'r pandemig.

"Mae llawer iawn o bobl sy wedi dod aton ni yn 16-25 oed, llawer iawn wedi cael eu rhoi ar ffyrlo, neu wedi colli swyddi ac angen cefnogaeth," meddai.

"Mae llawer iawn o bobl yng Ngheredigion mewn tlodi, neu mewn risg o fod mewn tlodi - rhai ohonyn nhw mewn swydd ond yn chwilio am swydd well sy'n talu mwy o arian.

"Falle bo' chi'n chwilio i uwch-sgilio eich hunain, os felly ni'n gallu helpu gyda hyfforddiant i wneud hynny."

'Storm' Covid a thlodi

Mae'r llywodraeth yn dweud bod y cynllun wedi helpu dros 25,000 ers dechrau yn 2018, a helpu dros 10,000 i gael gwaith.

Ychwanegodd llefarydd mai un yn unig o nifer o fesurau yw hwn i liniaru tlodi yng Nghymru.

Ar y cyd gyda chynlluniau i helpu rhieni yn ôl i swyddi, maen nhw'n dweud bod 25,000 o bobl wedi cael gwaith o ganlyniad i'r rhaglenni.

Yn ôl adroddiad diweddar gan Sefydliad Joseph Rowntree - sy'n gweithio i ddatrys tlodi yn y DU - "mae storm coronafeirws wedi rhyddhau ceryntau cryf gan ysgubo llawer o bobl i dlodi ac eraill yn ddyfnach i dlodi".

Roedd hefyd yn awgrymu:

  • Hyd yn oed cyn coronafeirws, roedd bron i chwarter (700,000) o bobl Cymru mewn tlodi ac yn byw bywydau ansicr;

  • Bod y risg i blant yn uwch, gyda thri o bob 10 o blant yn byw mewn tlodi;

  • Mae cyflogau yng Nghymru yn is ym mhob sector o'u cymharu gyda gwledydd eraill y DU;

  • Mae cynnydd mewn rhent yn y sector tai cymdeithasol wedi arwain at gynnydd dramatig mewn tlodi, yn enwedig mewn cartrefi sy'n gweithio.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl adroddiad mae coronafeirws wedi "ysgubo llawer o bobl i dlodi ac eraill yn ddyfnach i dlodi"

Bu Sefydliad Bevan yn gweithio gyda Sefydliad Joseph Rowntree ar yr adroddiad.

Dywedodd Dr Steffan Evans o Sefydliad Bevan bod prosiectau fel Cymunedau am Waith a Mwy "yn gallu cael effaith positif iawn ar unigolion".

"Ond wrth gwrs mae graddfa y broblem sy' 'da ni yng Nghymru - lle mae tua chwarter y boblogaeth yn byw mewn tlodi - yn meddwl mai ychydig bach o newid i'r nifer fawr o bobl sy'n diodde y'n ni'n gweld trwy'r cynlluniau yma," meddai.

"Hefyd, mae'n cymryd yn ganiataol mai diffyg sgiliau yw'r broblem yn hytrach na diffyg argaeledd swyddi sy'n talu'n dda yn ein cymunedau ni."

Beth ydy ymateb y llywodraeth?

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn ymrwymedig i hybu swyddi a chyfleoedd hyfforddi yn y cymunedau sydd eu hangen fwyaf i helpu i adeiladu economi gryfach a thecach yng Nghymru.

"Mae ein cefnogaeth wedi llwyddo i gyflawni gwell rhagolygon a chyfleoedd bywyd i bobl mewn partneriaethau gyda llywodraeth leol sy'n dod â phobl ynghyd. "

Dywed Llywodraeth Cymru fod y pwerau allweddol ar gyfer mynd i'r afael â thlodi - pwerau dros y systemau treth a lles - yn eistedd gyda Llywodraeth y DU.

Ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod mwy na £9m ar gael trwy'r Gronfa Cyngor Sengl yn ystod y flwyddyn ariannol hon i helpu pobl i gael y cyngor sydd ei angen arnynt i gynyddu eu hincwm i'r eithaf a rheoli eu costau byw yn well.

Pynciau cysylltiedig