Ymdrech i achub dyn sy'n 'ofni am ei fywyd' yn Afghanistan

  • Cyhoeddwyd
Soldiers help a woman, who fell due to high temperature at the Kabul International Airport as thousands of Afghans rush to flee the Afghan capital of KabulFfynhonnell y llun, Anadolu Agency via Getty Images

Mae menyw o Fro Morgannwg yn ymdrechu i helpu ei ffrind ddianc o Afghanistan wrth iddo "ofni am ei fywyd".

Dywedodd Anna Prince, sy'n byw yn Y Barri, bod ei ffrind Ahmad - nid ei enw iawn - wedi'i frawychu pan gymerodd y Taliban y pŵer gan lywodraeth y wlad unwaith eto.

Yn siarad â BBC Cymru, dywedodd Ahmad ei fod yn darged i'r Taliban oherwydd ei waith fel athro i fenywod a phlant, yn ogystal â'i amser fel cyfieithydd i luoedd Prydain a'r Unol Daleithiau.

"Cyn iddyn nhw [y Taliban] ddod mewn i Kabul, ges i fygythiadau oddi wrthyn nhw," meddai.

"Dywedon nhw eu bod yn chwilio am bobl sy'n dysgu menywod neu wedi gweithio fel cyfieithwyr, ac yn mynd i dorri eu pennau bant."

"'Naethon nhw ladd rhai o fy ffrindiau gorau yn fy mhentref," ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, EPA
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Taliban nawr wedi llwyddo i gipio pŵer yn llwyr yn Afghanistan

Pan ddaeth y Taliban i rym yn Afghanistan yn wreiddiol yn yr 1990au, fe wnaeth Ahmad ffoi o'r wlad.

Dychwelodd ar ôl blynyddoedd maith, ond mae o nawr yn ceisio dianc eto.

"Mae pawb eisiau gadael Afghanistan," meddai.

"Ond doedd hyd yn oed y rhai gyda visas, greencards neu basbortau Prydeinig methu mynd trwy'r torfeydd i gyrraedd y maes awyr.

"Mae pawb yn gwybod os ni fydda' nhw gadael, bydden nhw'n cael eu lladd, maen nhw am ladd ni fel anifeiliaid."

Mae Ahmad wedi dweud ei fod eisoes wedi gweld y Taliban yn saethu menywod, ac wedi clywed straeon am fenywod a phlant yn cael eu lladd.

Dywedodd nad oedd llywodraeth Afghanistan yn barod i luoedd y DU a'r UDA adael.

"Mae gen i ofn trwy'r amser bydda nhw'n ffeindio fi, a fy lladd," dywedodd.

Ffynhonnell y llun, Anna Prince
Disgrifiad o’r llun,

Mae Anna Prince wedi dweud y bydd yn gwneud popeth yn ei phŵer i achub Ahmad

Daeth Anna ac Ahmad yn ffrindiau dros gyfryngau cymdeithasol, gan rannu diddordebau mewn celf a llenyddiaeth.

Mae Anna nawr wedi cysylltu gyda gwleidyddion yn lleol i geisio sicrhau ffordd allan o Afghanistan i Ahmad.

"Byddai'n rhoi popeth er mwyn helpu hyd yn oed un person yno, dwi'n mynd i 'neud beth bynnag allai," meddai.

"Dydy hi ddim yn deg, i ni adael nhw yno.

"Roedd gan Ahmad fywyd da ac roedd o eisiau gwneud bywyd da i'w hun, ond nawr mae popeth yn cael ei dynnu i ffwrdd."