Dylanwad Covid yn parhau er bod drysau capeli ar agor
- Cyhoeddwyd
Does dim troi'n ôl - dyna'r neges wrth i ddrysau capeli ailagor ar hyd a lled Cymru.
Mae cenhadu wedi gweddnewid yn ystod y pandemig, gydag oedfaon digidol wedi camu i'r bwlch.
Mae bron i 80 o oedfaon Gofalaeth y Priordy, Cana a Bancyfelin yn ardal Caerfyrddin wedi eu cyhoeddi ar y we ers dechrau'r pandemig, a rhai o'r gwasanaethau hynny wedi eu gwylio fil o weithiau.
"Mae'n rhyfeddol shwt ma' pethe newydd yn gallu tyfu allan o ryw fath o argyfwng, ac o'n i'n rhyfeddu cymaint o deuluoedd sy' â chyswllt â'r we," eglura'r gweinidog, y Parchedig Beti Wyn James.
"Dwi'n credu bod angen y ddau gyfrwng, bod y naill a'r llall yn cwrdd â'r angen yn llawn.
"Y peryg yw o bosib y bydd rhai yn teimlo ei bod hi'n haws iddyn nhw aros adre i wrando ar oedfa ddigidol bellach.
"Ond dy'n ni ddim 'di profi hynny. Ry'n ni wedi bod ar agor ers sawl mis nawr a dwi ddim yn credu bod neb o'r ffyddloniaid sy' ddim wedi dychwelyd i'r oedfa."
Cafodd y Parchedig Gareth Ioan ei ordeinio yn ystod y cyfnod clo yn Nhachwedd 2020 i arwain pedair eglwys ym Mryniwan, Blaen-y-coed, Blaenwaun a Nanternis.
"Cynrychiolwyr yn unig o'r pedair eglwys o'dd yna a chynrychiolwyr o'r Undeb, ond fe recordiwyd y gwasanaeth i'w roi ar YouTube ac ma hynny'n rhyw fath o adlewyrchiad ar ddigwyddiadau'r flwyddyn.
"Yn ystod y cyfnod 'ma o'r haint, ry'n ni wedi troi at y cyfryngau cymdeithasol ar gyfer gwasanaethau a myfyrdodau a chynnal gwasanaethau ar Zoom.
"Ac mae hynny wedi cael ymateb arbennig o dda, o bob oedran, o'r Ysgol Sul i'r Mam-gus a Thad-cus yn cael help yr wyrion ar yr iPad."
Mae'r Parchedig Gareth Ioan eisoes wedi cynnal cyfarfodydd gyda'i aelodau i drafod y ffordd ymlaen wedi'r pandemig.
"Ni 'di cwrdd i weld sut ellwn ni ddatblygu hynny a chynnal hynny i'r dyfodol, fe' bo' ni'n medru cymryd mantais o'r cyfrynge yma a chynnal y gwasanaeth traddodiadol yn y capel neu'r festri, ond bod modd i ni hefyd i ledaenu neu ddarlledu hynny ymhellach i aelode' sy ffaelu dod i'r oedfa, a hefyd marchnata'r gwasanaeth o bosib i'r gymdeithas ehangach, a gobeithio denu pobl newydd at y gymuned eglwysig."
Technoleg yn 'allweddol'
Mae Eifion Thomas wedi cymryd rhan yn y cyfarfodydd hynny yng Nghapel Bryn Iwan.
"'Wi'n credu taw'r ffordd i symud ymlaen yw i beidio mynd am yn ôl. A ma' technoleg yn rhan allweddol o hynny.
"A 'na be sy'n dda yw bod ni i gyd wedi dysgu gyda'n gilydd. Ma' nifer fawr ohonon ni wedi gadael technoleg ar ôl dyddie' ysgol, ac mae'n neis nawr i gydio ynddo fe eto, a gweld shwt ma' pethe wedi datblygu."
Mae Meinir Davies yn un o'r athrawon yr ysgol Sul ym Mryn Iwan ac wedi manteisio ar y cyfrwng digidol yn ystod y flwyddyn a hanner diwethaf.
"Bydd hi'n neis i ddod 'nôl at ein gilydd," meddai, "ond defnyddio elfennau o dechnoleg yn ogystal i gadw pethe i fynd.
"Mae bywyde' plant mor fishi ar hyn o bryd ar ddyddie Sul yn ogystal â dyddie' eraill, felly bydd siawns falle i rai ymuno fydde ddim yn gallu fel arfer."
'Ffordd arbennig o genhadu'
Mae Sian Elin Thomas newydd gymhwyso i fod yn weinidog yng Nghapel Ebeneser Eglwyswrw, Sir Benfro, a Chapel Y Graig, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr. Bydd yn cael ei hordeinio fis Hydref 2021.
"Ni'n ailagor nawr wrth gwrs, a ma' rhaid i fi 'weud fod y gynulleidfa wedi bod yn galonogol iawn," meddai.
"Maen nhw wedi dod 'nôl. Ma' pobl ishe'r ochr ysbrydol. Ma' nhw 'di gweld ishe hynny dros y flwyddyn a hanner diwethaf.
"Ond hefyd, maen nhw'n awyddus i weld pethe'n datblygu. Ges i oedfaon gweledigaeth fis yn ôl, a nes i sôn wrthyn nhw a bwrw mas y syniad o greu myfyrdod unwaith y mis ac i rannu mas dros y cyfrynge cymdeithasol.
"Cyn y cyfnod clo, ma'n rhaid i fi weud, gyda'r cenhadu, o'n i ddim yn gw'bod shwt i agor mas i'r gymuned. A dwi'n meddwl trwy'r cyfnod clo, a thrwy'r gweithgareddau digidol ry'n ni 'di manteisio arno, dwi'n meddwl bo' ni 'di gweld bod yr ochr ddigidol yn ffordd arbennig o genhadu."
Yn ôl y Parchedig Beti Wyn James, bu'n flwyddyn a hanner heriol.
"Pan gaewyd drysau'r capel, o'dd e gymaint o sioc, 'sdim cof gyda ni o ddryse capel yn cau erioed yn hanes Cymru.
"Hynny yw, mae'r eglwysi a'r capel wedi bod ar agor trwy ddau ryfel byd. Ond un peth yn sicr o'n i'n teimlo ei bod hi'n angenrheidiol bod angen cadw cymdeithas yr Eglwys ynghyd a hefyd bod angen oedfa bob Sul - roedd hynny'n allweddol.
"Mi oedd yr argyfwng hwn wedi ein taflu ni mewn i sefyllfa lle'r oedd rhaid i ni fynd i'r afael â'r we ddigidol o ddifri."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd6 Medi 2020