Nifer o eglwysi'n cwrdd am y tro cyntaf ers chwe mis

  • Cyhoeddwyd
EglwysFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae eglwysi wedi cael yr hawl i ailagor ers Gorffennaf, ond roedd nifer wedi penderfynu aros

Daeth cynulleidfaoedd nifer o gapeli ac eglwysi ynghyd ar gyfer gwasanaethau wyneb yn wyneb am y tro cyntaf mewn chwe mis fore Sul.

Mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn amcangyfrif bod tua thraean o'u heglwysi wedi cynnal gwasanaeth wyneb yn wyneb y penwythnos hwn.

Mae capeli ac eglwysi wedi cael yr hawl i wneud hynny ers Gorffennaf, ond roedd llawer wedi penderfynu aros tan fis Medi a pharhau gyda darpariaeth ar-lein sydd wedi dod mor gyffredin i gynifer yn ddiweddar.

I nifer o aelodau roedd yn rhyddhad dod ynghyd i adeilad cyfarwydd ar ôl bod ar wahân am gymaint o amser.

'All dim gymryd lle cwrdd'

Daeth cynulleidfa o oddeutu 25 - llawer ohonynt mewn mygydau - i wasanaeth cyntaf Capel Maengwyn, Machynlleth ers dechrau'r cyfnod clo.

Roedd y gweinidog newydd, Iestyn ap Hywel, yn falch iawn o ddychwelyd, ac er nad yw'n gwadu gwerth oedfaon ar y we, mae cyd-gyfarfod yn hynod bwysig iddo o hyd.

Disgrifiad o’r llun,

Daeth cynulleidfa o thua 25 i wasanaeth cyntaf Capel Maengwyn ers dechrau'r cyfnod clo

"Mae'r cyfnod wedi gwneud i bobl feddwl be' ydyn ni'n ei wneud ar y Sul," meddai wrth raglen Bwrw Golwg.

"Rydyn ni'n ddiolchgar am y dechnoleg ac mae hi wedi bod yn ddefnyddiol i ni dros y misoedd diwethaf, ond all dim gymryd lle cwrdd gyda'n gilydd.

"Dwi'n gobeithio na fydd pobl yn cefnu ar y cwrdd wythnosol jest er mwyn ymuno ar-lein - dyna fy ofn i ynglŷn â'r datblygiadau - ond wrth gwrs mae eisiau i ni ddefnyddio'r dechnoleg ac wrth gwrs mae 'na fwy wedi cael cyfle i wrando yn y cyfnod hwn ac wedi clywed y neges o leia'."

Cyd-ddarllen yn hytrach na chanu

Mae'r gwasanaethau yn wahanol iawn i'r arfer - mae canllawiau gofalus mewn lle, system unffordd ar waith, rheolau ymbellhau cymdeithasol a does dim canu.

Ym Machynlleth bu'r gynulleidfa yn cyd-ddarllen o'r llyfr emynau.

Er ei fod yn wahanol roedd yr aelodau yng Nghapel Maengwyn wedi mwynhau.

Dywedodd un oedd wedi dod i'r gwasanaeth, Tom Rees: "Roeddwn i reit falch o fod yn ôl ym Maengwyn heddiw er gwaethaf y mwgwd am fy wyneb, achos roedd bod adref ar fore Sul am fisoedd heb fynd i oedfa yn rhyfedd iawn i mi."

Disgrifiad o’r llun,

"Mae'r cyfnod wedi gwneud i bobl feddwl be' ydyn ni'n ei wneud ar y Sul," meddai Iestyn ap Hywel

Ychwanegodd Dorothy Pughe, un arall oedd ym Maengwyn: "Gaethon ni gynulleidfa wych o ystyried bod o'r tro cynta' ar ôl y clo 'ma, a gwasanaeth hyfryd iawn.

"Roedden ni wedi colli'r addoli efo'n gilydd a'r gymdeithas - y gymdeithas yn fwy na dim.

"Mae 'na griw gwych ohonom ni yn dod at ein gilydd a chael paned fel rheol, a hefyd dwi'n mwynhau'r canu emynau - ac roedden ni'n colli hwnnw'n fawr iawn - ond fe wnaethon ni gyd-adrodd ryw dri emyn."

'Braf cael dod nôl'

Roedd dwy eglwys yn ardal Llanbedr Pont Steffan hefyd wedi agor am y tro cyntaf ddydd Sul sef eglwysi Sant Iago Cwm-ann a Llan-y-crwys.

Dywedodd Carys Hamilton, sy'n gurad yno: "Roedd un aelod wedi dweud wrtha i pa mor braf oedd hi i gael dod 'nôl, ac nad oedd hi wedi ystyried cymaint oedd hi'n gweld ishe'r gwmnïaeth a'r gwasanaeth a dod 'nôl i'r adeilad.

"Roedd yr ymateb yn un positif dros ben - roedd mwy wedi dod na'r disgwyl, ond roedd 'na ddigon o le i bawb."