Gweithgaredd poblogaidd Parkrun yn ailddechrau
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth bron i 500 o bobl gymryd rhan yn Parkrun Caeau Pontcanna, Caerdydd ddydd Sadwrn
Mae gweithgaredd poblogaidd Parkrun wedi ailddechrau yng Nghymru ddydd Sadwrn.
Nid yw'r gweithgaredd wedi gallu digwydd yma ers y cyfnod clo cyntaf ym Mawrth 2020.
Ond wrth i'r Prif Weinidog, Mark Drakeford gyhoeddi bod Cymru'n symud i lefel rhybudd sero ddechrau'r mis, fe gadarnhaodd trefnwyr y bydd rasys yn digwydd eto.
Er hynny, nid yw'n bosib eto i bob un o'r canolfannau ailddechrau rasys am nifer o resymau gwahanol.
Yn y gweithgaredd mae pobl yn mynd i ardaloedd penodol i redeg rasys 5km, ond gall pobl hefyd gerdded, ar foreau Sadwrn am 09:00.
John Gillibrand: 'Dwi'n 60 a dwi ddim wedi rhedeg o ddifrif ers dyddiau ysgol'
Cyn y pandemig, roedd tua 200,000 o bobl wedi cofrestru gyda Parkrun mewn dros 50 o safleoedd ar draws Cymru.
Credir bod hyd at 80% o safleoedd Parkrun yng Nghymru wedi ailddechrau ddydd Sadwrn, gyda'r Parkrun i ieuenctid rhwng 11-14 oed yn ailddechrau fore Sul.
Mae'r gweithgaredd yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr ar draws y DU, ac mae'n dibynnu hefyd ar ewyllys da rhai tirfeddianwyr i'w gynnal.

Roedd Peter Bradley'n synnu bod cyn gymaint wedi mentro i gaeau Pontcannau ddydd Sadwrn er y glaw
Dywedodd Peter Bradley, un o'r gwirfoddolwyr ar gaeau Pontcanna yng Nghaerdydd: bod "bron i 500 o bobol wedi troi allan heddiw" er gwaethaf tywydd anffafriol yma.
"Dwi'n siŵr bod nhw'n mynd i ffeindio bod yna fanteision jest cael symud - yn enwedig os ti'n mynd yn hen fel fi!"
Ymhlith y rasys a gafodd eu cynnal roedd Parkrun Parc Bute yng Nghaerdydd a Pharc Ynysangharad ym Mhontypridd.
Bu ennyd o dawelwch cyn dechrau'r Parkrun yn Nhrelai i gofio pobl fu farw yn ystod y pandemig.

Pobl yn paratoi i redeg a cherdded cwrs Parkrun Trelai, yng Nghaerdydd fore Sadwrn
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mai 2018
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2020