Treialon Cŵn Defaid Cymru'n dychwelyd ar ôl 'torcalon' llynedd
- Cyhoeddwyd
Mae 'na hen edrych ymlaen at Dreialon Cŵn Defaid Cymru fydd yn cael eu cynnal yn Nhywyn, Meirionnydd dros y dyddiau nesaf.
Oherwydd y pandemig coronafeirws doedd dim modd cynnal y bencampwriaeth y llynedd.
Bydd y goreuon o'r gystadleuaeth ar Fferm Sandilands yn mynd ymlaen i fod yn rhan o dîm Cymru.
Un sy'n ysu i gystadlu ydy Erin Fflur McNaught o Fferm Pandy ger Y Bala.
18 oed ydy Erin ond mae hi eisoes yn ffigwr adnabyddus iawn ym myd y treialon cŵn defaid.
Wrth sôn am y flwyddyn a hanner diwetha', dywedodd Erin wrth BBC Cymru Fyw: "Mae 'di bod yn dorcalonnus really oherwydd 'di cŵn ddim yma yn hir iawn ac mae'n job cael blwyddyn allan i gi.
"Mae'n mynd yn hynach felly mae wedi bod yn dorcalonnus i beidio gallu rhedeg y cŵn."
Beth Lawton ydy is-gadeirydd y pwyllgor trefnu lleol a mae hi'n hynod o falch bod y digwyddiad yn mynd yn ei flaen o'r diwedd.
Dywedodd ei fod yn "gyfle gwych i ddenu pobl i mewn i'r ardal".
"Does dim digwyddiadau wedi bod ers gymaint o amser mae hwn yn rhoi cyfle gwych i gymdeithasu ond hefyd i werthu'r ardal i bobl ddod i weld be' sydd ganddo ni i gynnig ym Mro Dysynni," meddai.
I Dylan Davies, cadeirydd y pwyllgor trefnu lleol, mae'r gystadleuaeth yn bwysig am nifer o resymau.
"Yn amlwg llynedd ddaru ni fethu cael y gystadleuaeth yma, mae gennoch chi gŵn da a hwyrach unwaith mewn bywyd y cewch chi ryw gi special a bob blwyddyn mae'r cloc amser yn tician.
"Mae ci yn mynd yn hŷn a 'de chi'n gwybod bod o ar ei orau y flwyddyn yna.
"Mae wedi bod yn siom fawr i lot methu cael rhedeg eu cŵn felly mae'n bwysig bod ni'n cael cyfle i roi go i'r cŵn hynny a bod nhw yn cael siawns i redeg."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Medi 2018
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2017