Williams yn ennill Pencampwriaeth Snwcer Agored Prydain
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth Mark Williams drechu Gary Wilson o 6-4 er mwyn ennill Pencampwriaeth Snwcer Agored Prydain am yr eilwaith nos Sul.
Dyma'r 24ain pencampwriaeth i'r Cymro 46 oed ei hennill, a daw 24 mlynedd wedi iddo ei hennill am y tro cyntaf.
Dim ond pedwar chwaraewr arall - Ronnie O'Sullivan (37), Stephen Hendry (36), John Higgins (31) a Steve Davis (28) - sydd wedi ennill mwy o bencampwriaethau.
Wedi i Wilson gael dechrau addawol i fynd ar y blaen o 3-2, daeth Williams yn ôl gyda rhediadau o 75 a 115 er mwyn symud o fewn ffrâm i'r fuddugoliaeth.
Fe wnaeth Wilson fethu â photio'r bêl binc yn y ffrâm olaf, gan olygu bod Williams wedi mynd ymlaen i selio'r bencampwriaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mai 2018
- Cyhoeddwyd28 Mai 2018
- Cyhoeddwyd12 Awst 2020