Ateb y Galw: Y cerddor Gwyn Rosser
- Cyhoeddwyd

Gwyn Rosser o Los Blancos
Y cerddor Gwyn Rosser sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl iddo gael ei enwebu gan Lewys Wyn yr wythnos diwethaf.
Gwyn Rosser yw prif leisydd a gitarydd y band Los Blancos, sy' newydd ryddhau EP newydd, Detholiad o Ganeuon Traddodiadol Cymreig.

Beth ydi dy atgof cyntaf?
Gyrru tractor yng ngardd gefn ein hen dŷ ni yng Nghaerfyrddin.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Bryn Myrddin - bryn tu ôl i'r tŷ. Golygfeydd godidog o ddyffryn Tywi a lleoliad ogof y Dewin Myrddin.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Noswaith lansio albym Sbwriel Gwyn, uffach o nosweth da.

Los Blancos
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Caredig, amyneddgar, hwylus.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Pan wnaeth Dewi Jones, basydd y band, lwyddo i dorri ffenest yn nhŷ Osian, gitarydd y band, ar ddamwain! Fe droiodd Dewi i edrych fel ysbryd yn go gloi!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Chwydu o flaen dosbarth ar ôl cael food poisoning.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Cwmpo off y beic ar seicl.

Gwyn a'i feic

O archif Ateb y Galw:

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Mymblo yn ormodol.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
The Departed - stori a hanner a soundtrack gwych.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
John Charles - i gael ofyn wrtho pam na chwaraeodd i Abertawe.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Fy mod yn hanner gog!
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Seiclo, gêm bêl droed 5 pob ochr, gwylio Abertawe yn curo Caerdydd 5-0 a gig yn bar Cwrw.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Llun o fi a Taid pan oeddwn yn fach. Yffach o ddyn. Wnaeth ysbrydoli fy angerdd dros bêl-droed.

'Yffach o ddyn': Gwyn Rosser a'i daid
Beth ti'n edrych mlaen at wneud mwya' unwaith fydd pandemig Covid wedi dod i ben?
Gallu bod mewn torf o bobl.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Buddy Emmons - Duw yr offeryn Pedal Steel.