Hoci iâ yn ôl yng Nghymru am y tro cyntaf ers 18 mis
- Cyhoeddwyd
Mae hoci iâ yn dychwelyd i Gymru ar ôl 18 mis wrth i Devils Caerdydd chwarae eu gêm gyntaf ers dechrau'r pandemig nos Iau.
Er bod chwaraeon eraill eisoes wedi ailddechrau, cafodd tymor hoci iâ 2020/21 ei ohirio'n gyfan gwbl fis Medi diwethaf.
Wrth i gampau fel pêl-droed a rygbi chwarae heb dorfeydd, doedd dim modd i glybiau'r Elite Ice Hockey League gynnal tymor heb arian gan gefnogwyr.
O ganlyniad, dydy'r Devils heb chwarae ers Mawrth 2020.
Covid wedi 'chwalu'r tîm'
Dychwelodd hoci iâ i Brydain am y tro cyntaf nôl ym mis Ebrill, pan gafodd yr Elite Series ei gynnal yn Nottingham.
Ond oherwydd diffyg arian wrth gefn a thorfeydd llawn, roedd rhaid i'r Devils aros tan ddechrau tymor 2021/22.
Dywedodd rheolwr-gyfarwyddwr y clwb, Todd Kelman, bod y flwyddyn a hanner ddiwethaf wedi bod yn hynod o anodd.
"Roedd y rinc ar gau ac fe gollon ni ein tymor yn llwyr - cafodd ein tîm ei chwalu gan Covid," meddai.
"Oedd o'n ormod o risg ariannol i ddechrau'r tymor heb gefnogwyr.
"Dros y 12 neu 18 mis diwethaf, dwi 'di bod yn pryderu a fydd hoci byth yn dod 'nôl i Gymru."
'Methu aros'
Mae'r gêm gyntaf yn ôl am fod yn noson emosiynol i Kelman a gweddill y clwb.
Mae disgwyl tua 3,000 o gefnogwyr wrth i'r Devils chwarae Adler Mannheim o'r Almaen yn y bencampwriaeth Ewropeaidd nos Iau.
"Dwi'n meddwl bod pawb mor gyffrous a siŵr o fod bydd rhai dagrau," meddai.
"Mae'n anhygoel i feddwl ni am gael cefnogwr hoci yn ôl yn yr adeilad - mae'n ffantastig."
Serch llwyddiannau'r Devils dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys dwy bencampwriaeth ac un cwpan, dydy tlysau dim yn pryderu Kelman y tymor yma.
"Y bencampwriaeth gyntaf yw'r munud ni'n camu mas ar yr iâ - dyna bencampwriaeth rhif un," dywedodd.
"Ein ffocws yw dod 'nôl i chwarae."
Mae cefnogwyr y tîm yn rhannu'r teimladau ac yn ysu i wylio eu hoff dîm am y tro cyntaf mewn blwyddyn a hanner.
"Roedd rhaid i ni setlo gyda'r NHL yn America," meddai David Williams, sydd hefyd yn ffotograffydd ar gyfer y clwb.
"Ond dydy'r gemau ddim mor emosiynol i gymharu â gwylio Caerdydd."
Fel Kelman, mae Mr Williams hefyd yn falch bod y clwb wedi goroesi'r cyfnod anodd yma ac yn gyffrous i ddychwelyd i'w gartref yn y Viola Arena.
"Dwi jyst yn falch bod y clwb dal yn bodoli er mwyn i'r tymor fynd yn ei flaen eleni," meddai.
"I gael cefnogwyr yn yr arena am y tro cyntaf ers cymaint o amser, mae'r atmosffer yn mynd i fod yn anhygoel. Dwi methu aros."
'Sbesial iawn'
Mae cyfnod y pandemig hefyd wedi bod yn anodd i chwaraewyr y Devils.
Yn wahanol i rai campau mwy, dydy chwaraewyr hoci iâ ym Mhrydain ddim yn cael eu talu os nad ydynt yn chwarae gemau.
I nifer o chwaraewyr, roedd y cyfnodau clo yn golygu dim incwm.
Dyma oedd sefyllfa'r amddiffynnwr Mark Richardson, sy'n gapten ar y Devils eleni.
Heb dymor i chwarae yng Nghymru, symudodd ef i ffwrdd o'i deulu i chwarae yn Yr Almaen gyda EC Bad Nauheim ym Medi 2020.
Gyda chyfyngiadau yn tynhau yn ystod y gaeaf, treuliodd fisoedd heb weld ei wraig Sarah na'i ferch ifanc Grace.
"Oedd e'n hynod o anodd," meddai.
"Roedd rhaid i mi 'neud e heb dymor yma, ac oeddwn i'n lwcus i gael swydd.
"Ond oedd e'n anodd iawn i fod i fwrdd o fy nheulu ac ar yr adeg yma yn fy ngyrfa, doedd e ddim yn rhywbeth o' ni'n ysu i wneud."
Bydd dychwelyd i chwarae yng Nghaerdydd yn foment arbennig i Richardson ac mae'n edrych ymlaen at gamu allan ar yr iâ unwaith eto.
"Fel pawb, dwi'n gyffrous," meddai.
"I allu chwarae yng Nghaerdydd, mae'n rhywbeth chi'n cymryd yn ganiataol cyn iddo gael ei rwygo i ffwrdd.
"Mae dychwelyd i chwarae o flaen ein cefnogwyr yn mynd i fod yn sbesial iawn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd1 Awst 2021