Chwilio am ddau ddyn wedi lladrad arfog yn Tesco
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n chwilio am ddau ddyn yn dilyn lladrad arfog mewn siop yn ardal Castell-nedd.
Cafodd Heddlu'r De eu galw i Tesco Express ar Heol Castell-nedd yn Llansawel am 22:45 nos Fawrth.
Dywed y llu bod dau aelod o staff - menyw ac un ferch 15 oed - wedi eu bygwth gan ddau ddyn.
Tynnodd y ddau swm o arian parod a sigaréts cyn gadael ar feic modur.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Carl Price: "Mae hon yn drosedd ddychrynllyd sydd wedi gadael y ddwy fenyw wedi'u hysgwyd yn ofnadwy. Dim ond 15 oed yw un ohonyn nhw.
"Rydym yn deall y bydd hyn yn peri pryder i'r cyhoedd ac, er ein bod yng nghyfnod cynnar ein hymchwiliad, rydym yn cynnal nifer o ymholiadau i ddod o hyd i'r ddau unigolyn sy'n gyfrifol.
"Fel rhan o'r ymholiadau hynny rwy'n gofyn am gymorth y cyhoedd. Hoffem glywed gan unrhyw un a oedd yn yr ardal tua amser y digwyddiad, neu sydd â lluniau teledu cylch cyfyng neu dashcam yn yr ardal, i gysylltu gan y gallai gynorthwyo ein hymchwiliad."