Canu gyda chôr ysbyty yn 'helpu i ddelio â'r pwysau'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Côr ysbyty yn cwrdd unwaith eto ar ôl 18 mis o'r pandemig

Mae côr o Lanelli sy'n cynnwys meddygon, nyrsys, rheolwyr iechyd ac aelodau o'r heddlu yn dweud fod gallu ailddechrau ymarferion llawn yn eu helpu i ddelio â heriau taclo Covid.

Credir mai côr Nodau'r Ysbyty yw'r unig gôr o'i fath yn y Deyrnas Unedig sy'n cynnwys aelodau o'r gwasanaeth iechyd, gofal cymdeithasol a'r gwasanaethau brys.

Fe gafodd y côr ei sefydlu yn 2018 i nodi 70 mlynedd ers sefydlu'r Gwasanaeth Iechyd.

Gemma Brown, rheolwr safle clinigol gyda'r gwasanaeth iechyd yn lleol, oedd y sylfaenydd.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd côr Nodau'r Ysbyty ei sefydlu yn 2018 i nodi 70 mlynedd ers sefydlu'r Gwasanaeth Iechyd

Mae hi'n dweud fod yr aelodau i gyd yn "rhan o'r system gofal a gofalu".

"Ond dyw labeli a theitlau swydd yn golygu dim fan hyn," meddai.

"Does dim hierarchy. Chi yn soprano, alto, tenor neu bas."

Yn ôl aelodau'r côr mae canu a cherddoriaeth yn helpu i wella eu perfformiad yn y gweithle, a hefyd yn cynorthwyo gyda'u lles ac iechyd meddwl.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Bethan Lewis bod y côr "'di bod yno i fi ar hyd yr amser"

Dywed Bethan Lewis, sy'n weithiwr cymdeithasol yn Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli: "Fi yn teimlo bo fi'n cael rhyddhad o ddod i ganu gyda'r côr ar ôl diwrnod caled o waith yn yr ysbyty.

"Mae'r côr wedi bod yn garedig a chyfeillgar iawn i fi. Ges i groten fach ar ddechre y pandemig ac maen nhw 'di bod yno i fi ar hyd yr amser.

"Ni yn gweld cyfeillion yn y gwaith ond s'dim amser i gael chat na dim byd, ond mae modd dod fan hyn a dala lan â phawb a phob un.

"Ni 'nôl yn ymarfer ac mae haul wedi dod ar fryn i ni - diolch byth am hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Mark Lewis mae canu gyda'r côr yn helpu i leddfu'r pwysau a ddaw o swyddi gyda'r gwasanaeth iechyd

Ychwanegodd aelod arall o'r côr, Mark Lewis, sy'n gweithio yn y labordy yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin: "Fi'n mwynhau canu a ma' job stressful iawn gyda fi yn y labs, a fi'n cadw fynd trwy'r dydd a chi'n teimlo y stress levels yn mynd lawr ar ôl canu.

"Allen i ddim godde bod heb ganu. Mae'r flwyddyn ddiwetha' 'di bod mor wael gyda pressure a stress, ma' hwn wedi helpu achos ni 'di bod yn canu ar Zoom bob wythnos.

"Mae hwn yn rhoi help a sbri ac ma' ishe fe achos ni 'di bod yn cael amser caled, ac mae'n dda i fod nawr gyda'n gilydd yn canu."

Erbyn hyn mae gwaith y côr yn ennyn diddordeb gan fyrddau iechyd eraill ar hyd a lled y DU, ac mae'n bosib y bydd mwy o gorau fel Nodau'r Ysbyty Llanelli i'w clywed yn canu yn y dyfodol.

Pynciau cysylltiedig