Fandaliaid yn difrodi cerbydau Rheilffordd Llangollen

  • Cyhoeddwyd
Rheilffordd LlangollenFfynhonnell y llun, Rheilffordd Llangollen
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rheilffordd yn amcangyfrif y bydd yn costio "miloedd ar filoedd o bunnau" i adfer y cerbydau

Mae dau o gerbydau Rheilffordd Llangollen wedi cael eu difrodi ar ôl fandaliaid chwistrellu graffiti arnynt dros nos yr wythnos hon.

Fe wnaeth gwirfoddolwyr sy'n gweithio yn iard y rheilffordd ger Pentrefelin ganfod y difrod ddydd Mercher.

Roedd yr rheilffordd wedi amcangyfrif y byddai'n costio "miloedd ar filoedd o bunnau" i adfer y cerbydau, yn ogystal â nifer o oriau o waith gwirfoddol.

Ond wedi gwaith glanhau ddydd Iau, mae'n bosib nad yw'r difrod mor ddrwg a'r disgwyl yn wreiddiol.

Cafodd y cerbydau 60 oed eu hadfer gan wirfoddolwyr y rheilffordd, a'r rhain sydd fel arfer yn cael eu defnyddio ar y rheilffordd yn ystod yr wythnos.

Mae'r rheilffordd yn credu bod y difrod wedi'i wneud yn oriau mân y bore ddydd Mercher.

Dywedon nhw fod y rheiny sy'n gyfrifol wedi torri drwy ffens diogelwch a bod fideo CCTV o'r digwyddiad yn dangos eu bod wedi bod yno am dros awr.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rheilffordd wedi bod yn ailagor mewn camau ers 9 Gorffennaf ar ôl bod ynghau ers mis Medi 2020 cyn hynny

Dywedodd pennaeth adran gerbydau Rheilffordd Llangollen, John Joyce eu bod "mewn sioc ac yn drist i ddarganfod y fandaliaeth ddisynnwyr yma".

"Bydd angen amser a gwariant sylweddol i wneud yn iawn am y difrod," meddai.

"Fe allai'r amser a'r arian fod wedi cael ei ddefnyddio'n llawer mwy cynhyrchiol na gwneud yn iawn am y difrod difeddwl yma.

"Wedi popeth mae Rheilffordd Llangollen wedi'i oroesi dros y 18 mis diwethaf, dyma un ergyd gwbl ddiangen."

Roedd dyfodol y gwasanaeth yn ymddangos yn y fantol yn gynharach eleni pan aeth adain fusnes y cwmni i ddwylo'r gweinyddwyr.

Ond mae'r rheilffordd wedi dechrau ailagor mewn camau ers 9 Gorffennaf ar ôl bod ynghau ers mis Medi 2020 cyn hynny.