Gallai mwy o gleifion ysbyty weld cyfyngiadau eto
- Cyhoeddwyd
Ni fydd unrhyw newidiadau sylweddol i reolau Covid yng Nghymru yn yr adolygiad diweddaraf o'r rheoliadau, mae'r prif weinidog wedi cadarnhau.
Anogodd Mark Drakeford bobl i barhau â'u hymdrechion i amddiffyn eu hunain ac eraill ac atal y feirws rhag lledaenu.
Ond fe fydd yr adolygiad nesaf o'r rheolau - a fydd yn digwydd ymhen tair wythnos ar 16 Medi - yn ystyried a ddylid gorfodi pobl i ddangos prawf eu bod wedi cael eu brechu er mwyn cael mynediad i rai lleoliadau risg uchel.
Dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru, Eluned Morgan fore Gwener bod Llywodraeth Cymru'n "ystyried hynny" ond y byddai'n "gam eitha' mawr".
Un o'r ychydig newidiadau yw bod dim gofyniad cyfreithiol ar bobl sy'n mynd i wasanaeth priodas neu bartneriaeth sifil wisgo gorchudd wyneb.
Dywedodd y Torïaid nad oedden nhw'n disgwyl unrhyw newidiadau yn yr amgylchiadau presennol, a dywedodd Plaid Cymru fod angen cynlluniau ar gyfer y posibilrwydd bod angen trydydd dos o frechiad.
Dair wythnos yn ôl, symudodd Cymru i Lefel Rhybudd Sero, gyda rheolau pellhau cymdeithasol ffurfiol wedi diflannu.
Mae'n orfodol i wisgo mygydau yn y rhan fwyaf o leoliadau cyhoeddus o hyd, gan gynnwys bysiau, siopau ac ysbytai.
Ond cafodd yr holl gyfyngiadau ar gwrdd ag eraill eu dileu hefyd ar 7 Awst a chaniatawyd i bob busnes agor. Er hynny, mae'n rhaid i gwmnïau gymryd camau rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws.
Mae cyfradd achosion Cymru bellach wedi codi i 334.1 o achosion fesul 100,000 dros gyfnod o saith diwrnod.
Mae achosion yn uwch nag ar yr adeg hon yn yr ail don ond mae'r effaith ar ysbytai a marwolaethau yn llawer is.
Ar raglen Dros Frecwast ddydd Gwener, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan mai cynnydd "aruthrol" yn niferoedd y cleifion Covid sydd angen mynd i'r ysbyty "fydde y golau coch i ni o ran dechrau meddwl am beth fyddai angen i ni neud o ran cyfyngiadau newydd".
Mewn ymateb i awgrym meddyg teulu yn ardal Abertawe bod angen gosod cyfyngiadau ar bobl sydd heb gael eu brechu, atebodd Ms Morgan bod Llywodraeth Cymru "yn ystyried hynny ond ni ddim yn bendant wedi neud penderfyniad.
"Byddai hynny dim mond yn cael ei rhagweld fel angen dangos tystysgrif mewn safleoedd lle mae 'na risg uchel, llefydd fel clybiau nos ac ati," meddai.
"Ond ni ddim ar y pwynt yna eto - byddai hwn yn gam eitha' mawr i ni, dwi'n meddwl, fel llywodraeth ond wrth gwrs y'n ni yn barod i roi cyfyngiadau'n ôl mewn lle os fydd angen, ond ni ddim ishe bod yn y sefyllfa yna. Mae rhaid i ni gofio bydd y gaeaf yma yn aeaf eitha' anodd."
Ychwanegodd bod "rhaid i ni ddechrau byw gyda y feirws yma" a bod y cynnydd presennol yn nifer achosion wedi eu rhagweld yn sgil llacio'r rheolau o ran pellter cymdeithasol a gorfod hunan-ynysu wedi cysylltiad gydag achos coronafeirws positif.
'Brechiad yw'r amddiffyniad gorau'
"Mae nifer yr achosion yn cynyddu, ac mae'r sefyllfa iechyd cyhoeddus yn waeth na'r sefyllfa a oedd yn ein hwynebu dair wythnos yn ôl pan symudodd Cymru i Lefel Rhybudd Sero," medd Mr Drakeford.
"Mae'n hanfodol ein bod yn parhau gyda'r rhagofalon, a hynny i sicrhau nad yw'r gwaith da sydd wedi'i wneud hyd yma yn ofer.
"Cael y brechiad yw'r amddiffyniad gorau sydd gennym o hyd.
"Os nad ydych wedi manteisio ar y cynnig o frechiad yn barod, rwy'n eich annog yn gryf i wneud hynny, gan ymuno â thros 2.1 miliwn o bobl yng Nghymru sydd wedi cael eu brechu'n llawn er mwyn amddiffyn eu hunain ac eraill."
Galwodd y prif weinidog ar bawb i gymryd "camau syml" bob dydd i gadw pawb yn ddiogel, gan gynnwys cwrdd ag eraill yn yr awyr agored yn hytrach na dan do neu cadw pellter wrth bobl eraill y tu allan.
Dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn gwneud mân newidiadau "er mwyn symleiddio ac egluro'r rheolau sydd eisoes yn bodoli".
Mae'r newidiadau'n cynnwys nad oes gofyniad cyfreithiol ar bobl sy'n mynd i briodas neu bartneriaeth sifil wisgo gorchudd wyneb, yn unol â'r eithriad sydd eisoes yn bodoli ar gyfer derbyniadau priodas.
Bydd y rheoliadau'n cael eu hadolygu eto ar 16 Medi a rhwng nawr a hynny fe fydd Llywodraeth Cymru'n ystyried a oes angen i bobl ddangos eu bod wedi cael eu brechu er mwyn cael mynediad i rai lleoliadau risg uchel.
Beth mae'r gwrthbleidiau yn ei ddweud?
Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig nad oedden nhw wedi disgwyl unrhyw newidiadau "o ystyried y sefyllfa iechyd cyhoeddus bresennol" oherwydd "rydyn ni wedi cymryd camau breision yn y frwydr yn erbyn coronafeirws diolch i raglen frechu wych Prydain, sydd wedi gwanhau'r cysylltiad rhwng haint ac ysbyty yn fawr".
"Y flaenoriaeth i bob llywodraeth, o bob lliw, ddylai fod ein hadferiad - yn yr economi, cymdeithas, a gwasanaethau cyhoeddus - a chynnal y cynnydd mawr rydyn ni wedi'i wneud dros yr ychydig fisoedd diwethaf," ychwanegodd y llefarydd.
Dywedodd dirprwy arweinydd Plaid Cymru, Sian Gwenllian AS, ei fod yn "hanfodol bwysig bod Llywodraeth Cymru yn ddidwyll â'r hyn y mae'r data'n ei ddatgelu - yn benodol ar sut mae'r rhaglen frechu wedi effeithio ar nifer y bobl sydd angen triniaeth ysbyty oherwydd Covid.
"Mae pobl hefyd yn awyddus i weld a yw'r llywodraeth wedi gwneud cynlluniau ar gyfer trydydd dos o frechlynnau - gyda sôn y gallai imiwnedd ostwng dros amser, mae'n bwysig bod y llywodraeth yn gallu ein sicrhau bod ganddynt gynllun pe bai angen trydydd dos."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Medi 2021
- Cyhoeddwyd26 Awst 2021
- Cyhoeddwyd25 Awst 2021