Meddyg yn galw am gyfyngu pobl sydd heb eu brechu
- Cyhoeddwyd
Mae meddyg teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Bae Abertawe, ble mae nifer achosion coronafeirws yn dyblu'n wythnosol, yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cyfyngiadau yn achos pobl sydd heb gael eu brechu rhag y feirws.
Mewn cyfweliad ar gyfer rhaglen Newyddion S4C, dywedodd Dr Mair Williams na ddylai pobl sydd heb gael y brechlyn allu mynd i lefydd na mynd ar wyliau.
Bydd Llywodraeth Cymru'n cadarnhau casgliadau eu hadolygiad diweddaraf ddydd Gwener wrth i gyfraddau achosion parhau i gynyddu.
Ddydd Iau fe gofnododd Iechyd Cyhoeddus Cymru y nifer dyddiol uchaf o achosion Covid-19 ers mis Ionawr, sef 2,389 mewn 24 awr hyd at 25 Awst.
Abertawe oedd â'r gyfradd achosion saith diwrnod uchaf fesul 100,000 o bobl - sef 498.4. 443.8 yw'r gyfradd yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Mae nifer achosion yn dyblu o wythnos i wythnos yn ardal Bwrdd Iechyd Bae Abertawe a phobl dan 30 oed sy'n cael eu taro waethaf.
Dywed Dr Mair Williams, sy'n gweithio yn Sgiwen, bod yna sawl ffactor am hynny, gan gynnwys lledaeniad y feirws o fewn y sector lletygarwch ac achosion yn gysylltiedig â gŵyl Boardmasters yng Nghernyw.
Cadarnhaodd y bwrdd ddydd Mercher bod cysylltiad rhwng 80 o achosion lleol ac oddeutu 12 o dafarndai, clybiau a llefydd sy'n cynnal dathliadau.
Dywed Dr Williams ei bod wedi dod ar draws pobl o bob oedran sydd heb gael brechiad Covid-19, a bod rhaid gweithredu os yw'r sefyllfa'n gwaethygu.
"Fi'n credu dylen nhw orfodi rhai i gael vaccination," meddai. "Os nad yw nhw'n cymryd y vaccination bod nhw ddim yn gallu neud pethe, mynd i lefydd a mynd ar eu gwylia. Mae'n rhaid i ni neud rhywbeth."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae gyda ni oll ran i'w chwarae i leihau'r risg o ledu'n feirws a byddwn yn annog pawb sydd eto i gael brechiad i ddod ymlaen a helpu cadw eu hunain a'u hanwyliaid yn ddiogel".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Awst 2021
- Cyhoeddwyd25 Awst 2021