Gweinidog yn 'gofidio' am gynnydd Covid mewn pobl dros 60
- Cyhoeddwyd
Mae'r gweinidog iechyd yn "gofidio" am y cynnydd mewn pobl dros 60 oed sy'n dal coronafeirws yng Nghymru.
Wrth i nifer yr achosion gynyddu, yn enwedig ymysg pobl ifanc, dywedodd Eluned Morgan bod y ffigyrau'n "peri pryder".
Daw wrth i feddyg o dde Cymru ddweud bod ysbytai'n "orlawn" gyda phobl sydd angen triniaeth am bethau heblaw Covid.
Ar Dros Frecwast dywedodd Ms Morgan bod y nifer sy'n mynd i'r ysbyty gyda Covid dal yn isel, ond ei bod yn "ymwybodol iawn" o'r pwysau eraill ar ysbytai ar hyn o bryd.
Cyfradd uchaf ers Ionawr
Mae cyfradd achosion newydd Covid-19 yng Nghymru ar ei huchaf ers mis Ionawr.
Ar gyfartaledd, mae 1,505 o achosion newydd yn cael eu hadrodd bob dydd yng Nghymru, cynnydd o'r ffigwr o 946 yr wythnos ddiwethaf.
Pobl dan 25 oed sy'n gyfrifol am y twf diweddaraf, yn ôl ystadegau Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Yn siarad ar Radio Cymru fore Iau dywedodd Eluned Morgan: "Mae'r ffigyrau diweddara'n peri pryder ond mae llai o risg i bobl ifanc.
"Ni'n gofidio gweld cynnydd yn nifer y bobl dros 60 sy'n dal y feirws."
Ond ychwanegodd bod "rhaid edrych ar y gyfradd sy'n mynd i'r ysbytai", sydd "dal yn weddol isel" meddai.
Wrth i ysgolion ddychwelyd yr wythnos nesaf, mae 'na bryder y gallai arwain at gynnydd sydyn mewn achosion.
Mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi cyngor i ddisgyblion a staff cyn y tymor newydd.
Dywedodd Ms Morgan ei bod "i fyny i ysgolion i gymryd cyfrifoldeb - athrawon a rhieni - mae'n bwysig i bobl gymryd cyfrifoldeb eu hunain".
Ychwanegodd: "Rhaid i ni gofio hefyd - os bydd Covid yn digwydd ymhlith pobl ifanc, y tebygrwydd yw na fydd e mor ddifrifol ag yw e ymhlith y cenedlaethau hŷn."
'Ysbytai'n teimlo fel y gaeaf'
Hefyd ar Dros Frecwast, dywedodd y meddyg Dr Dai Samuel ei fod yn "brysur dros ben" yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ar hyn o bryd, "ond nid gyda Covid".
Er mai isel ydy nifer y cleifion coronafeirws, dywedodd bod "ysbytai ar draws Cymru yn orlawn ar hyn o bryd ac mae hi yn teimlo fwy fel y gaeaf, fel falle mis Ionawr a Chwefror, na mis Awst".
"Ni yn gweld nifer o bobl yn dod mewn gyda phethe eraill - yn enwedig gyda'r ward respiratory, mae nifer o heintiau eraill yr ysgyfaint yn cael eu gweld nawr, fel arfer heintiau bydden ni yn gweld yn yr hydref a'r gaeaf.
"Mae'n bryderus ac yn fregus iawn dros ben. Achos bod yr ysbyty yn orlawn ni ddim yn gallu neud cymaint o waith elective sydd angen cael ei wneud nawr ar ôl 18 mis o beidio gwneud hynny."
Wrth ymateb, dywedodd Eluned Morgan: "Dwi'n ymwybodol iawn o'r her a'r ffaith bod ein hysbytai ni eisoes yn orlawn.
"Mae problem o ran recriwtio - mae'n anodd cael pobl allan o ysbytai achos diffyg gofalwyr.
"Bydd gwasanaeth recriwtio dros yr wythnosau nesa' i geisio cael mwy o bobl o ran gofal cymunedol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Awst 2021
- Cyhoeddwyd1 Medi 2021
- Cyhoeddwyd26 Awst 2021