Pryder am effaith torri gwasanaethau bws ar y gorllewin

  • Cyhoeddwyd
Bws
Disgrifiad o’r llun,

Bydd chwe gwasanaeth T1 y dydd yn cael eu canslo - tri i'r ddau gyfeiriau

Mae pryder am yr effaith y bydd canslo gwasanaethau bws rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin yn ei gael ar gymunedau'r gorllewin.

Bydd gwasanaeth bws T1 sy'n rhedeg rhwng y ddwy dref yn cael ei gwtogi dros dro o ddydd Mawrth nesaf oherwydd prinder gyrwyr.

Dywedodd Aelod Senedd Cymru dros Geredigion, Elin Jones mai dyma "asgwrn cefn y gorllewin" o ran teithio rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth.

Bydd chwe gwasanaeth y dydd yn cael eu canslo - am 10:05, 12:05 a 15:05 o Gaerfyrddin i Aberystwyth ac am 07:40, 12:40 a 14:40 i'r cyfeiriad arall.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Elin Jones bod llawer o bobl yn ddibynnol ar y gwasanaeth T1

Roedd Ms Jones yn un o'r rheiny fu'n gweithio i sefydlu'r gwasanaeth yn 2014 er mwyn creu gwell rwydwaith rhwng Aberystwyth, Aberaeron, Llambed a Chaerfyrddin.

"Mae'n wasanaeth sydd wedi tyfu i fod yn llwyddiannus tu hwnt lle mae pobl yn ddibynnol arni," meddai.

"Mae hynny'n ofidus iawn oherwydd mae 'na bobl sy'n dewis defnyddio'r bws ond mae 'na hefyd bobl sydd yn angenrheidiol yn gorfod defnyddio'r bws i gyrraedd gwaith neu wasanaethau pwysig eraill."

Gyrwyr yn troi at lorïau?

Ychwanegodd fod angen i Lywodraeth Cymru ystyried prinder gyrwyr a thrafod gyda chwmnïau bysiau.

"Dwi'n meddwl fod angen i'r llywodraeth edrych nawr ar beth yw goblygiad beth sy'n digwydd i yrwyr HGV a sut mae gyrwyr bysus yn cael eu denu i yrru lori erbyn hyn," meddai wrth Dros Frecwast.

"Efallai bod y cyflogau'n well a'r amodau gwaith yn well."

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Mae pryder fod nifer o yrwyr bysiau yn troi at yrru lorïau er mwyn cael mwy o dâl

Un sy'n ymwybodol am y prinder o ran gyrwyr bws ydy Rhys ap Tegwyn o Geredigion.

Fe adawodd ei swydd fel gyrrwr bws ym mis Ebrill eleni er mwyn mynd weithio i gwmni lorïau o Ffrainc sy'n gweithredu o Aberystwyth.

"Fi sawl mil o bunnau yn well off y flwyddyn. Sai'n gorfod mynd allan ar benwythnos a fi gartre bob nos," meddai ar Radio Cymru.

Dywedodd hefyd ei fod yn adnabod sawl gyrrwr arall sydd wedi penderfynu newid swyddi a dechrau gyrru lorïau.

'Cyflenwad digonol dros y gaeaf'

Ychwanegodd Elin Jones: "Y peth pwysig nawr yw cadw golwg fanwl ar y cyflenwad o yrwyr sydd yna yn y gwasanaethau bysiau, a beth sydd angen ei wneud i ddiogelu cyflenwad digonol dros y gaeaf."

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud ei bod "yn gweithio gyda'r gweithredwr, Trafnidiaeth Cymru a'r awdurdodau lleol i adfer y gwasanaeth arferol cyn gynted â phosib."

Mae cwmni bysiau First Bus, sy'n rhedeg y gwasanaeth T1, wedi cael cais am ymateb.