Agor cwest i farwolaeth llofrudd Clydach
- Cyhoeddwyd
Mae cwest i farwolaeth y dyn a gafwyd yn euog o lofruddiaethau Clydach wedi ei agor.
Fe wnaeth David Morris, 59, ladd tair cenhedlaeth o'r un teulu yn y pentref yng Nghwm Tawe yn 1999.
Treuliodd 22 mlynedd yn y carchar am lofruddiaeth Mandy Power, 34, a'i merched Katie, 10, ac Emily, wyth, yn ogystal â'i mam 80 oed Doris Dawson.
Bu farw Morris yng ngharchar Long Lartin ar 20 Awst ar ôl cwympo y tu fas i'w gell, clywodd y cwest.
Ni wnaeth archwiliad post-mortem ddarganfod achos ei farwolaeth.
Wrth agor y cwest, dywedodd crwner cynorthwyol Sir Gaerwrangon, Nicholas Lane, bod Morris wedi dod allan o'i gell cyn cwympo yn gynnar yn y bore.
"Serch ymdrechion i'w adfywio, cafodd ei gadarnhau yn farw am 08:43," meddai.
"Cafodd post-mortem ei gynnal ac, ar hyn o bryd, mae achos ei farwolaeth yn amhendant."
Cafodd y cwest ei ohirio er mwyn cynnal adolygiad cyn gwrandawiad llawn.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Awst 2021