Llofrudd Clydach, David Morris, wedi marw yn y carchar

  • Cyhoeddwyd
Cafodd David Morris ei garcharu am oes am lofruddiaethau ClydachFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd David Morris ei garcharu am oes am lofruddiaethau Clydach

Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cadarnhau bod David Morris, a gafwyd yn euog o lofruddiaethau Clydach, wedi marw.

Cafodd Morris ei garcharu yn 2006 am guro pedwar aelod o'r un teulu i farwolaeth yn eu cartref yn y pentref yn 1999.

Bu farw Mandy Power, ei mam oedrannus, Doris Dawson, a'i phlant Katie ac Emily, oedd yn 10 ac wyth oed yn y digwyddiad.

Cadarnhaodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder bod Morris, 59 oed, wedi marw ddydd Gwener a bod Ombwdsmon Carchardai a Phrawf wedi cael gwybod.

Roedd Morris yn garcharor yn ngharchar Long Lartin, Swydd Gaerwrangon ar adeg ei farwolaeth.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mandy Power a'i dwy ferch Katie ac Emily gafodd eu llofruddio yn eu cartref yng Nghlydach yn 1999

Gyda'r hwyr ar 26 Mehefin 1999, fe gafodd Doris Dawson, ei merch Mandy, a'i dwy wyres Emily a Katie eu curo i farwolaeth yn eu cartref yng Nghlydach ger Abertawe.

Yr ymchwiliad i'r marwolaethau oedd y mwyaf erioed o'i fath yn hanes Heddlu De Cymru.

Ond pasiodd tair blynedd arall cyn i ddyn lleol - David Morris - gael ei ganfod yn euog a'i ddedfrydu i bedair dedfryd oes.

Roedd Morris wedi gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn ac roedd ei deulu wedi ymgyrchu'n gryf gan honni ei fod yn ddieuog.

'Tystiolaeth newydd'

Yn gynharach eleni, fe gyhoeddodd Heddlu De Cymru nad oedd euogfarn Morris wedi ei thanseilio ar ôl iddyn nhw asesu tystiolaeth newydd yn sgil rhaglen gan BBC Cymru.

Mewn rhifyn o gyfres materion cyfoes Wales Investigates, fe ddaeth dau dyst newydd i'r amlwg.

Ar gais cyfreithwyr Morris, ym mis Ionawr 2021 fe gyhoeddodd Heddlu De Cymru eu bod am asesu tystiolaeth benodol gafodd ei chyflwyno gan y rhaglen.

Ond ar ôl cael cyngor gan Wasanaeth Erlyn y Goron, cadarnhaodd Heddlu'r De ym mis Gorffennaf nad oedd gwybodaeth y tystion newydd yn amharu ar yr euogfarn.

Pynciau cysylltiedig