Dyn yn y llys wedi ei gyhuddo o lofruddio'i gyn-wraig
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi ymddangos yn y llys wedi ei gyhuddo o lofruddio ei gyn-wraig.
Mae Russell Marsh, 29 o Shotton yn Sir y Fflint, wedi ei gyhuddo o ladd Jade Marsh, oedd hefyd yn cael ei hadnabod fel Jade Ward.
Cafodd y fam i bedwar ei chanfod yn farw ar Chevrons Road yn y dref fore Iau.
Siaradodd Mr Marsh ond i gadarnhau ei enw yn ystod y gwrandawiad byr yn Yr Wyddgrug.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa nes ei ymddangosiad nesaf ddydd Mercher.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Awst 2021