Gwerthu tir ar barc busnes gwag Bryn Cegin, Bangor

  • Cyhoeddwyd
Parc busnes Bryn Cegin
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn berchen ar stad ddiwydiannol Bryn Cegin ers 2000

Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i werthu tir ar barc busnes gwag ar gyrion Bangor 21 mlynedd ers ei sefydlu.

Yn 2020 fe ddatgelodd BBC Cymru fod Llywodraeth Cymru wedi gwario dros £11m ar y safle er iddo barhau yn wag.

Dywedodd Aelod o'r Senedd dros Arfon, Siân Gwenllian ei bod yn gobeithio y bydd penderfyniad y llywodraeth i werthu tir yn "newyddion positif" er ei bod hi'n parhau i alw am ragor o fanylion.

Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y Gweinidog dros yr Economi wedi "cytuno i werthu budd yn nhir rhydd-ddaliad ar barc diwydiannol ym Mangor".

Fe gafodd stad ddiwydiannol Bryn Cegin ei chreu ym 2000 yn dilyn ymgynghoriad a ddatgelodd yr angen yn lleol am safle o'r fath.

Yn 2015 fe ddaeth i'r amlwg fod y safle wedi ei enwi fel cartref posib ar gyfer sinema aml sgrin newydd.

Ond mae BBC Cymru ar ddeall fod y cynllun hwnnw wedi dod i stop gyda datblygwyr yn dweud eu bod nhw wedi methu a denu bwytai yno er mwyn gwneud y datblygiad yn ariannol bosib.

Yn 2020 fe ddywedodd Cyngor Gwynedd fod rhan o'r safle hefyd am gael ei ddefnyddio fel rhan o gynllun Cludo a Chasglu (Park and Ride).

Er hyn mae'r safle yn parhau yn wag hyd heddiw.

Mewn datganiad ar-lein fe ddywedodd Llywodraeth Cymru fod y "Gweinidog dros yr Economi wedi cytuno i werthu budd Gweinidog Cymru yn rhydd ddaliad rhan o dir diwydiannol ym Mangor".

Mae hyn "ynghyd ag opsiwn i brynu a dyfarnu grant datblygu eiddo i gefnogi datblygiad cynllun datblygu diwydiannol".

Mae hyn yn golygu bod rhannau o'r stad 90 o erwau ar gael er mwyn eu datblygu gyda modd i'r Llywodraeth gynnig cefnogaeth ariannol i gynlluniau sy'n cymhwyso.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Siân Gwenllian AS yn gobeithio bod y datblygiad yn "newyddion positif"

Wrth ymateb i'r newyddion dywedodd AS Siân Gwenllian ei bod hi'n gobeithio fod cyhoeddiad Llywodraeth Cymru yn newyddion "positif" i ddyfodol y stad.

"Dwi wir yn gobeithio fod cyhoeddiad Llywodraeth Cymru yn newyddion positif i barc busnes sydd wedi sefyll yn wag ers 20 mlynedd," meddai.

"Ond dwi'n aros yn eiddgar i weld y manylion ac yn deall arwyddocâd yr hyn mae'r llywodraeth newydd ei gyhoeddi.

"Mae angen rhagor o swyddi o ansawdd yng Ngwynedd ac mae Bryn Cegin yn cynnig y cyfle perffaith.

"Dwi'n edrych ymlaen at weld a fydd gan Lywodraeth Cymru'r ewyllys gwleidyddol."

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi "yn y man".

Pynciau cysylltiedig