COP26 yn 'gwbl dyngedfennol' i ddyfodol y blaned
- Cyhoeddwyd
Bydd cynhadledd ryngwladol ar newid hinsawdd ym mis Tachwedd yn "gwbl dyngedfennol" i ddyfodol y blaned, medd ymgyrchydd amgylcheddol o Gymru sydd bellach yn Aelod Seneddol.
Ymhen dau fis bydd Glasgow yn cynnal y cyfarfod mwyaf o arweinwyr y byd yn hanes y DU.
Dywedodd Anna McMorrin bod COP26 yn gyfle i Gymru "estyn allan a dangos arweiniad".
Dywed un o wyddonwyr blaenllaw Cymru ei fod yn gobeithio y bydd yr achosion dirifedi diweddar o dywydd eithafol ar draws y byd yn annog pobl i "ganolbwyntio" ar y broblem.
Yn ôl yr Athro Gareth Wyn Jones, sydd wedi cynghori Llywodraeth Cymru ar newid hinsawdd, mae'n "annhebygol iawn" bellach y bydd modd atal cynhesu byd eang rhag cyrraedd lefel beryglus.
Beth yw COP26?
Mae llywodraethau'r byd wedi'u cynghori i wneud toriadau llym i nwyon tŷ gwydr yn ystod y degawdau nesaf er mwyn ffrwyno cynnydd yn nhymereddau'r blaned.
Yn ystod cynhadledd flaenorol ym Mharis fe gytunon nhw i geisio atal y cynhesu rhag cyrraedd 2C o'i gymharu â'r cyfnod cyn y chwyldro diwydiannol - ond yn ddelfrydol cadw'r cynnydd at 1.5C.
Ond roedd 'na fwlch mawr rhwng y nod hwnnw a'r polisïau gweithredu roedd y gwledydd wedi'u cynnig - gan olygu bod y byd ar fin wynebu newid hinsawdd llawer mwy eithafol. Bwriad COP26 yw mynd i'r afael â hynny.
'Ffordd arswydus o fyw'
Dywed Ms McMorrin, AS Llafur Gogledd Caerdydd, bod yna bobl yn ei hetholaeth sydd eisoes yn dioddef effeithiau newid hinsawdd.
"Gyda'm llygaid fy hun dwi wedi gweld pobl yn symud eu celfi lan staer pan mae'n addo glaw gan eu bod nhw mor bryderus am gael llifogydd eto.
"Mae'n ffordd arswydus o fyw," meddai.
Yng nghynadledd Paris yn 2015 roedd hi'n un o'r rhai oedd am sicrhau bod geiriad y cytundeb yn cydnabod rôl taleithiau a rhanbarthau llai.
Cyn dod yn AS roedd hi'n ymgyrchydd i Gyfeillion y Ddaear a bu hefyd yn ymgynghorydd arbennig i Lywodraeth Cymru ar ostwng allyriadau.
Tra fod Cymru yn "gwneud mwy na'i siâr" mewn meysydd fel ailgylchu, polisi cynllunio a thrwy ei Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol mae angen iddi "symud yn gynt i sicrhau gwell isadeiledd ar gyfer cerbydau trydan, trafnidiaeth gyhoeddus a gwneud hi'n haws i bobl ddefnyddio llai o drydan yn eu cartrefi," meddai.
"Allwn ni ddim gwneud hyn ar ein pennau ein hunain, mae'n rhaid i ni weithio o fewn y DU a gyda phartneriaid o dramor hefyd," dywedodd, gan ychwanegu bod COP26 yn gyfle i "estyn allan i wledydd datganoledig eraill".
Sut mae newid hinsawdd yn effeithio ar Gymru?
Dangosodd adroddiad diweddar bod tymheredd blynyddol Cymru wedi codi 0.9C ar gyfartaledd ers y 1970au ac y byddai'n lle poethach a gwlypach yn y dyfodol.
Mae'n golygu y bydd llifogydd difrifol - fel a ddioddefwyd gan sawl cymuned yn ystod stormydd Ciara, Dennis a Jorge yn 2020 - yn debygol o ddigwydd yn fwy rheolaidd, hyd yn oed os lwyddwn ni i gael gwared ar allyriadau tŷ gwydr.
Mae lefel niweidiol o newid hinsawdd fel y dywedodd gwyddonwyr yn yr adroddiad wedi "pobi" yn barod.
Ymysg cerddi buddugol y Prifardd Dyfan Lewis yn yr Eisteddfod Amgen eleni mae un am effaith y sefyllfa ar ardal Trelluest ar lan yr afon Taf yng Nghaerdydd.
"Os ydych chi'n edrych ar fapiau llifogydd ar y we, allwch chi weld bod yr ardal yma yn wynebu risg sy'n gwaethygu wrth i'r argyfwng hinsawdd fynd rhagddo," meddai.
"Mae 'na ryw fath o rwystredigaeth (yn y gerdd) - beth mae'n mynd i gymryd i ni weithredu y camau angenrheidiol er mwyn sicrhau bod llefydd fel Grangetown a lleoliadau arfordirol eraill drwy Gymru yn lefydd bydd pobl yn gallu byw yn y dyfodol."
Er ei fod e'n teimlo'n obeithiol o weld llywodraethau'r byd yn "cronni mewn un man" ar gyfer COP26 - mae 'na 25 COP wedi bod eisoes, meddai.
"'Fyddech chi'n gobeithio erbyn hyn bod rhywfaint o weithredu wedi digwydd."
'Angen toriadau enfawr'
Rhybuddiodd Gareth Wyn Jones, athro emeritws ym Mhrifysgol Bangor bod y byd wedi "oedi" am llawer rhy hir a bod osgoi newid hinsawdd sylweddol bellach yn "dasg hynod o anodd".
Mae angen i wleidyddion, meddai, fod yn agored am ddifrifoldeb y sefyllfa.
Mae'n amau mai ofer fydd yr ymdrechion i gadw'r cynnydd yn nhymereddau'r byd i 1.5 gradd - un o brif obeithion cynhadledd COP26.
"Mae modd i ni leihau allyriadau yn sydyn ofnadwy yn dechnegol ond ydy o'n debygol o ddigwydd? Nac ydi yn fy marn i. 'Da ni wedi creu cymdeithas sy'n dibynnu ar brynwriaeth, ar gyfalafiaeth ac mae'n anodd iawn cysoni hynny gyda'r toriadau sy'n angenrheidiol."
Rhan o'r ateb yw cael pobl i ddeall faint o garbon deuocsid y maen nhw eu hunain yn gyfrifol am ei gynhyrchu - a'u hannog i leihau hynny, awgrymodd.
Yng Nghymru, fel ar draws y DU, y gred ydy bod oddeutu 10 tunnell o nwyon tŷ gwydr y pen yn cael eu hallyrru bob blwyddyn - tua dwbl y cyfartaledd ar draws y byd.
Rhaid torri hynny i 0 erbyn 2050.
"Dwi'n mwynhau y moethau ond mae 'na lot allwn ni 'neud o fewn safon byw go lew," meddai - gan gynnwys gyrru llai, dim ond hedfan pan fod gwir angen a pheidio â gwastraffu bwyd.
"Mae 'na rai pethau y bydd rhaid gwahardd neu o leiaf roi carbon tax trwm arnyn nhw - er enghraifft fflïo."
Beth arall all helpu?
Er mwyn lleihau eu defnydd o adnoddau'r blaned mae cymuned Penarth, Bro Morgannwg wedi agor 'Llyfrgell Pethau' newydd.
Cafodd 200 o nwyddau eu cyfrannu gan bobl leol ac maent bellach ar gael i'w benthyg am gyn lleied â 50c y dydd - gyda chwsmeriaid yn medru gwirfoddoli yn y siop yn lle talu os ydyn nhw am wneud hynny.
Mae peiriannau golchi carped, torri gwair, offer DIY a gazebo ymysg yr eitemau mwyaf poblogaidd hyd yn hyn.
"'Ni 'di cael ymateb da iawn, mae'n ffordd dda iawn o rannu adnoddau yn lleol ac yn esiampl ymarferol o r'wbeth gall bawb ei wneud i leihau eu hallyriadau eu hunain," medd Dr Eurgain Powell, sy'n gwirfoddoli gyda mudiad amgylcheddol Gwyrddio Penarth Greening - sy'n rhannol gyfrifol am y prosiect.
Ychwanegodd Ella Smillie, sy'n arwain rhwydwaith Benthyg Cymru ei bod yn gobeithio agor 11 llyfrgell debyg ar draws y wlad cyn COP26.
Mae'n gobeithio y bydd y gynhadledd yn cynnig "cyfle enfawr" i gymunedau siarad â gwleidyddion am eu syniadau ac yn cyfleu "yr angen brys sydd yna i leihau'n ôl troed carbon ar unwaith".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Awst 2021
- Cyhoeddwyd17 Medi 2020
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2020