Meddyg wedi gweithio i ysbytai eraill tra'n sâl
- Cyhoeddwyd
Mae meddyg ymgynghorol a fu'n gweithio mewn ysbytai eraill tra ar absenoldeb salwch yn Sir Fynwy wedi cael ei dynnu oddi ar y gofrestr feddygol.
Roedd Dr Joao Muel yn gweithio ym maes obstetreg a gynaecoleg yn ysbyty Nevill Hall yn y Fenni.
Yn ystod haf 2018, dywedodd wrth fwrdd iechyd Aneurin Bevan ei fod yn rhy sâl i weithio oherwydd diabetes.
Ond tra ar dâl salwch llawn, derbyniodd waith yn Wrecsam Maelor, Tameside a Glossop yn ogystal ag ysbytai yn Barnsley.
'Anodd credu'
Honnodd Dr Muel yn ystod y gwrandawiad nad oedd yn gwybod bod gweithio mewn ysbyty arall tra ar absenoldeb salwch gan ei brif gyflogwr yn anonest.
Dywedodd hefyd ei fod yn cael trafferth gyda phroblemau ariannol.
Ond dywedodd cwnsler y Cyngor Meddygol Cyffredinol, Rosalind Emssley-Smith, fod Dr Muel yn gwybod "ei fod yn cael ei dalu ddwywaith gymaint".
"Mae'n anodd credu nad anonestrwydd oedd hynny," meddai.
Dywedwyd wrth y tribiwnlys fod Dr Muel wedi ei gael yn euog o dwyll drwy gynrychiolaeth ffug gan Ynadon Gwent ym mis Ebrill 2019 - hynny am y shifft asiantaeth yn Wrecsam a thaliadau dwbl.
Roedd y meddyg, a gymhwysodd yn Slofacia ym 1997, hefyd yn wynebu cael ei gyhuddo o fethu â darparu gofal clinigol digonol i ddau glaf.
Roedd honiad pellach yn ymwneud â chais am swydd gyda bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg ym mis Chwefror 2019.
Cytunodd y panel ei fod yn flaenorol o gymeriad da, ei fod wedi cwblhau hyfforddiant pellach a'i fod wedi talu'r arian yn ôl i fwrdd iechyd Aneurin Bevan, sy'n rhedeg ysbyty Nevill Hall.
Ond dywedodd y panel fod yr anonestrwydd wedi'i gynllunio ymlaen llaw, a'i fod yn cynnwys 17 shifft asiantaeth a thaliadau sylweddol.
Canfu aelodau'r panel hefyd ei fod wedi ceisio rhoi sylw i'w dwyll a'i fod "yn sylfaenol yn anghydnaws â bod yn feddyg".
Cytunodd yr aelodau i ddileu Dr Muel oddi ar y gofrestr. Bydd yn cael apelio yn erbyn y dyfarniad o fewn 28 diwrnod.