Oes angen cadw beichiogrwydd cynnar yn gyfrinach?
- Cyhoeddwyd
Mae'n gyfnod o lawenhau pan mae rhywun yn cyhoeddi eu bod nhw'n feichiog. Ond dydy nifer o ddarpar-rieni ddim yn torri'r newyddion tan ar ôl y sgan deuddeg wythnos.
Dyma oedd y ddigrifwraig Esyllt Sears yn ei drafod gyda Jennifer Jones ar Dros Ginio ar Radio Cymru - mae hi'n credu'n bod rhannu'r newyddion am feichiogrwydd yn gynnar gyda phobl yn gallu bod yn beth iach.
Dywedodd Esyllt: "Yn aml yn y tri mis cyntaf yna, ti angen gyment mwy o gefnogaeth. Does dim byd gweledol felly byddai pobl ddim yn gallu deall pam bo ti ddim cweit yn ymddwyn fel ti dy hunan."
Rhannodd Esyllt y newyddion ei bod hi'n disgwyl ei phlentyn cyntaf gyda'i theulu ar ôl tair wythnos, meddai.
"I fi mae'n bwysig achos dwi'n siŵr bydd lot o famau allan yna ar hyn o bryd yn gwybod mae'r tri mis cyntaf, yw'r tri mis rydych chi'n teimlo waetha'.
"Chi wedi blino, chi'n sâl iawn, chi methu bwyta lot, chi'n teimlo'n eithaf gwan. Ond dyna'r cyfnod lle chi gorfod cuddio hwnna oddi wrth bawb yn enwedig os ydych chi mewn gweithle neu gyda ffrindiau a theulu."
Yn anffodus, pan oedd hi'n disgwyl ei hail blentyn, cafodd Esyllt wybod bod hi wedi colli'r babi.
"O'n i'n falch iawn fy mod i wedi dweud wrth fy nheulu agos fy mod i'n feichiog," eglurodd Esyllt.
"Ar yr wythfed wythnos, pan ffeindies i allan bo' fi wedi colli'r babi, dwi'n credu o'dd hwnna wedi 'neud e gymaint haws i allu trafod gyda'r teulu.
"Gallen i ddim ddychmygu dim byd gwaeth na gorfod dweud wrthyn nhw yn yr un sgwrs fy mod i wedi bod yn disgwyl a bo' fi wedi colli e. Odde nhw gyda fi wedyn bob cam o'r ffordd."
Ond mae hi'n cydnabod nad yw hyn yn addas i bawb a bod pryd i rannu'r newyddion eich bod chi'n feichiog yn benderfyniad personol iawn.
"Dwi ddim yn dweud dyle pawb fod yn cyhoeddi ei newyddion yn syth ond dwi'n credu dyle sefyllfa fod lle dyle mamau deimlo eu bod hi'n fwy derbyniol i ddweud.
"Mae'r syniad yma os wyt ti'n dweud yn y tri mis cyntaf bo' ti'n feichiog, a phobl yn ymateb gan ddweud 'dy fod ti wedi jinxio fe nawr' yn rhywbeth mor ofergoelus, dyw e ddim yn gwneud synnwyr.
"Dyw'r ffaith bod ti wedi dweud wrth rywun dy fod ti'n feichiog ddim yn mynd i effeithio dy feichiogrwydd di."
Normaleiddio trafodaeth colli babi
Mae un babi mewn wyth yn cael ei golli cyn y genedigaeth a 80% o'r rheiny yn digwydd yn yr wythnosau cyntaf. Dylai'r sgwrs am hyn fod yn fwy agored, meddai Esyllt.
"Mae'r sgwrs am golli babi yn gwella, [ond] ma' lot o bobl yn beirniadu pobl enwog os ydyn nhw'n trafod y pethau yma. Maen nhw'n gwneud allan fel bod nhw'n trio cal sylw; pobl fel Chrissy Teigan, pan gollodd hi fabi.
"Mae'n cael i bobl sylweddoli bod e yn gallu digwydd i unrhywun ac mae e yn digwydd i gyment o fenywod.
"Dwi'n siŵr bod pobl allan yna nawr sydd ddim wedi dweud wrth neb bod e wedi digwydd iddyn nhw. Ni gyd yn 'nabod rhywun, hyd yn oed os yw'r person yna heb ddweud wrtho ni oherwydd mae e mor gyffredin. Mae'n alar go iawn a real pan mae e'n digwydd.
"Mae e yn bwysig siarad, ac er nes i fyth cwrdd â'r babi, fi oedd dal ei fam e ac yn fy mhen i mae gen i dri phlentyn, ond dydw i heb gwrdd ag un ohonyn nhw. Pan dwi'n meddwl am y peth mae e dal yn brifo.
"Os yw'r babi yn llwyddo i ddatblygu a chael ei eni yn iach neu beidio, mae'r babi dal wedi bodoli. Ti mynd i orfod dweud rhywbeth wrth rywun rhywbryd, beth bynnag sydd yn digwydd."