'Merched yn y byd meddygol yn cael eu bychanu'n aml'

  • Cyhoeddwyd
meddygonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd 42% o feddygon benywaidd eu bod yn ofn sôn am eu profiadau

Mae merched yn y byd meddygol yn cael eu bychanu ac yn gorfod dioddef ymddygiad nawddoglyd, medd arolwg gan y Gymdeithas Feddygol Brydeinig (BMA).

Dywedodd 88% o feddygon Cymru bod rhagfarn ar sail rhyw yn digwydd yn y Gwasanaeth Iechyd. O ganlyniad mae nifer yn dweud bod angen gwersi ar sut i beidio gwahaniaethu rhwng pobl.

Ffynhonnell y llun, BMA
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Dr Bethan Roberts ei bod hi'n hynod o bwysig bod canlyniadau'r arolwg yn cael eu cyhoeddi

Dywed Bethan Roberts, sy'n feddyg teulu, bod canlyniadau'r arolwg yn dangos yn glir bod "gwahaniaethu ar sail rhyw yn digwydd yn y gweithle".

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn ystyried unrhyw fater o wahaniaethu yn "gwbl ddifrifol".

Beth mae'r adroddiad yn ei ddweud?

Mae'r arolwg a gynhaliwyd ymhlith meddygon ar draws y DU yn nodi:

  • bod 91% o feddygon benywaidd wedi cael profiad o wahaniaethu ar sail rhyw yn y gweithle a bod 42% yn teimlo na allent sôn am eu profiad;

  • bod 88% o'r rhai a ymatebodd yr arolwg yng Nghymru yn credu mai ffactorau strwythurol a sefydliadol anfanteisiol i ferched sy'n gyfrifol am y gwahaniaethu yn GIG Cymru;

  • bod 35% wedi dweud eu bod wedi cael un profiad o wahaniaethu ar sail rhyw yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Fe ddywedodd 21% eu bod wedi cael profiad ohono unwaith y mis yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ac fe ddywedodd 26% eu bod wedi cael profiad ohono bob dydd.

Dywedodd Dr Roberts: "Fe fydd pobl wedi cael profiadau gwahanol ac felly mae'n bwysig bod canlyniadau'r arolwg yn cael eu cyhoeddi - dyw'r ffaith nad yw rhywbeth yn amlwg ddim yn golygu nad yw'n digwydd."

Mae'n dweud bod problemau strwythurol yn rhan o'r broblem ond "bod yna ddiwylliant ehangach o ofn yn enwedig wrth adrodd am bryderon".

Dywedodd: "Rwy'n credu bod agweddau gwahaniaethau ar sail rhyw wedi deillio o strwythur y GIG sydd wedi dioddef ymddygiad gan rai unigolion ac yn aml mae meddygon iau a staff wedi gadael adrannau anodd yn hytrach na delio gyda'r broblem. Hefyd mae meddygon iau yn gyndyn o sôn am eu pryderon gan eu bod yn ofni y gallai hyn gael effaith ar eu gyrfa."

Ffynhonnell y llun, Science Photo Library
Disgrifiad o’r llun,

Yn aml mae dioddef ymddygiad anffafriol yn cael ei weld yn rhan o'r swydd, medd rhai nyrsys

Mae adroddiad gan undeb UNISON yn nodi bod 60% o nyrsys yn y DU wedi profi aflonyddu rhywiol yn y gwaith.

Dywedodd rhai bod disgwyl iddynt fyw gydag ymddygiad o'r fath gan ei fod yn cael ei "weld yn rhan o'r swydd" a dywedodd eraill ei fod yn digwydd mor aml fel ei fod wedi dod yn "normal".

O'r rhai a oedd wedi profi ymddygiad o'r fath dim ond 27% oedd wedi sôn am y profiad wrth eu cyflogwr. Dywedodd eraill nad oedd y mater yn cael ei ystyried yn ddigon difrifol a dywedodd 35% nad oedd digon yn cael ei wneud i'w diogelu yn y gweithle.

Sylwadau negyddol

Wrth rannu eu profiadau yn ddi-enw, dywedodd meddygon yng Nghymru eu bod wedi derbyn nifer o sylwadau nawddoglyd - nifer yn beirniadu y ffordd y maent yn edrych. Dywedodd eraill eu bod yn cael eu hanwybyddu gan gleifion a meddygon ac wrth geisio am swyddi uwch.

Dywedodd un meddyg: "Sawl gwaith dwi wedi clywed nad yw arbenigo mewn maes yn beth da i ferched - yn enwedig os am gael teulu. Yn aml dwi'n cael fy nghamgymryd am nyrs er fy mod yn cyflwyno fy hun fel meddyg."

Dywedodd meddyg arall: "Dywedwyd wrthyf unwaith mai yn cartref y dylwn fod yn magu teulu ac y byddwn yn diflasu ar fod yn feddyg.

"Yn aml mae aelodau gwrywaidd o'r tîm yn anwybyddu merched ac yn gwneud yr union sylw y mae merch wedi ei wneud ynghynt."

Sut mae newid?

Mae Dr Roberts yn credu mai diffyg hyfforddiant sy'n bennaf gyfrifol bod y math hwn o ymddygiad yn bodoli ac mae'n dweud bod yn rhaid delio â'r mater.

Dywedodd: "Dylai hyfforddiant ar gyfartaledd ac amrywiaeth fod yn orfodol yn y GIG ond yn wir mae'n rhaid i drafodaethau o'r fath ddechrau yn ystod oed cynnar fel bod pawb yn gwybod sut mae ymddwyn a pharchu eraill."

Dywedodd Manish Adke, cyd-gadeirydd fforwm BAME (Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol) yng Nghymru: "Roedd gen i bryderon ers blynyddoedd am wahaniaethu ar sail hil a rhyw ond mae'r arolwg yma, yn anffodus, wedi cadarnhau fy ofnau.

"Rhaid i ni fel y BMA siarad â chyflogwyr er mwyn gwaredu unrhyw wahaniaethu ar sail hil neu rhyw yn y GIG drwy wella addysg, hyfforddiant, cefnogaeth a chodi ymwybyddiaeth.

"Rhaid hefyd cael mecanwaith lle mae'n bosib i staff leisio pryderon a lle mae modd gweithredu yn erbyn y rhai sy'n parhau i greu gwahaniaeth rhwng cydweithwyr.

"Mae'r anghyfartaledd rhwng cyflogau merched a dynion yn enghraifft amlwg o'r gwahaniaethu a diffyg cyfleon i staff benywaidd. Rhaid i ni weithio gyda'n gilydd i waredu gwahaniaethau o'r fath a gwneud y GIG yn fan mwy diogel i weithwyr."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae unrhyw ffurf o ragfarn neu wahaniaethu yn gwbl annerbyniol ac rydym yn ystyried materion o'r fath yn gwbl ddifrifol. Ry'n yn parhau i weithio gyda'r GIG i ddelio gyda phob math o wahaniaethu ac ry'n yn disgwyl i bob aelod o staff y GIG gael ei drin gyda pharch ac urddas.

"Mae polisïau wedi'u cyflwyno fel bod sefydliadau'r GIG yn delio ag unrhyw bryderon ac mae staff yn cael eu hannog i leisio unrhyw bryder.

"Ry'n yn gweithio gyda chyflogwyr y GIG ac undebau llafur er mwyn canfod ffyrdd mwy hwylus i staff leisio pryderon am y dulliau o weithio neu ofal."

Pynciau cysylltiedig