Codiad cyflog o 3% i holl staff gwasanaeth iechyd Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd holl staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru yn cael codiad cyflog o 3%.
Daw hynny yn dilyn argymhelliad gan y corff sy'n adolygu cyflogau'r GIG, a chyhoeddiad am godiad tebyg ar gyfer staff GIG yn Lloegr.
Ond mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi beirniadu'r cynnydd gan ddweud ei fod yn rhy isel o hyd.
Dywedodd gweinidog iechyd Cymru, Eluned Morgan fod y cyhoeddiad diweddaraf yn gydnabyddiaeth o "ymdrechion eithriadol" staff iechyd yn ystod y pandemig.
'Pwysau aruthrol'
Fe fydd y codiad cyflog yng Nghymru yn ôl-weithredol o fis Ebrill 2021, ac yn berthnasol i staff cyflogedig gan gynnwys nyrsys, glanhawyr, porthorion a gweithwyr cymorth iechyd.
Bydd hefyd yn cynnwys meddygon ymgynghorol, meddygon dan hyfforddiant, meddygon ar gontractau arbenigwyr ac arbenigwyr cyswllt, meddygon teulu a deintyddion.
"Unwaith eto, hoffwn ddiolch i staff GIG Cymru am eu hymdrechion eithriadol yn ystod y pandemig hwn," meddai Eluned Morgan.
"Mae llawer o'r staff wedi gweithio oriau hir iawn dan bwysau aruthrol.
"Mae'r codiad cyflog hwn yn cydnabod ymroddiad ac ymrwymiad staff y GIG a'r cyfraniad enfawr y maent wedi'i wneud.
"Mae hefyd yn cydnabod faint y mae cymunedau Cymru'n eu gwerthfawrogi."
Mae'r newid yn golygu mai'r cyflog llawn amser blynyddol isaf ar gyfer staff yn y gwasanaeth iechyd fydd £19,918.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn aros i glywed gan Drysorlys y DU am unrhyw gyllid ychwanegol fydd ar gael i dalu am y codiad cyflog.
Ychwanegodd fod y codiad cyflog yn ychwanegol at daliad bonws o tua £500 oedd eisoes wedi'i gyhoeddi ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol.
Beirniadaeth gan yr undebau
Ond wrth ymateb i gyhoeddiad cynharach Llywodraeth y DU am godiad cyflog o 3%, dywedodd y Coleg Nyrsio Brenhinol fod y cyhoeddiad yn "ddi-drefn".
"Pan mae'r Trysorlys yn disgwyl i chwyddiant fod yn 3.7%, mae gweinidogion yn gwybod felly eu bod nhw'n cwtogi cyflog nyrs profiadol o dros £200 mewn termau real," meddai ysgrifennydd cyffredinol a phrif weithredwr yr undeb, Pat Cullen.
Dywedodd y byddai'r cyhoeddiad yn "ergyd chwerw i lawer" ac yn na fyddan nhw'n "derbyn yn ddistaw".
Ychwanegodd undeb Unsain fod staff y gwasanaeth iechyd yn "haeddu mwy".
"Mae risg y bydd llawer yn dewis peidio aros o gwmpas i weld y gwasanaeth iechyd drwy'r pandemig a chlirio'r llwyth o waith sydd wedi pentyrru ers Covid," meddai'r ysgrifennydd cyffredinol Christina McAnea.
Dywedodd llefarydd ar ran BMA Cymru: "Gydol y pandemig mae cydweithwyr ar draws y sector gofal iechyd wedi mynd y filltir ychwanegol i ofalu am gleifion, gan beryglu eu bywydau eu hunain a'u teuluoedd yn y broses.
"Ar ôl mynd drwy'r cyfnod mwyaf heriol yn eu gyrfa, rydym yn hynod siomedig gydag argymhelliad y bwrdd o godiad cyflog o 3% ,a bod y gweinidog [yng Nghymru] wedi dewis peidio mynd y tu hwnt i hynny.
"Yn y pen draw, mae angen i ni drafod gyda'n haelodau i fesur eu barn, ac rydym yn cynllunio i drafod hyn gyda'r gweinidog cyn gynted y bo modd."
Ond dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George ei fod "wrth fy modd yn gweld staff y GIG yng Nghymru yn derbyn codiad cyflog o 3% er mwyn cydnabod eu hymdrechion anhygoel yn ystod y cyfnod mwyaf heriol yn hanes ein gwasanaeth iechyd".
'Angen adfer lefelau cyflogau'
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ddydd Iau, dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth bod y cynnydd o 4% sy'n cael ei gynnig yn Yr Alban "ddim yn swnio'n llawer mwy, ond mae yna adlewyrchiad yna o realiti'r pwysau sydd ar weithwyr o fewn y gwasanaeth iechyd a gofal".
Dywedodd fod y cynnydd o 12.5% y mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn galw amdano "yn swnio yn lot" ond eu bod yn dadlau mai dyna sydd angen "er mwyn dod â chyflogau'n ôl i beth fyddai nhw wedi bod ddegawd yn ôl".
Ychwanegodd: "'Da ni wedi gweld blwyddyn ar ôl blwyddyn o dorri cyflogau go iawn o fewn y gwasanaeth iechyd, ac mae angen rhyw fodd dod â lefelau'n ôl i beth roedden nhw."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2021