Codi tollau ffyrdd yn cael 'effaith andwyol ar y tlotaf'

  • Cyhoeddwyd
A470 PontypriddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r A470 yn ardal Pontypridd yn un o'r lleoliadau dan sylw

Byddai cyflwyno tollau ar rannau o'r A470 a'r M4 yn cael "effaith andwyol ar y bobl tlotaf yn ein cymdeithas", yn ôl cynghorydd Ceidwadol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymchwilio i'r syniad o godi tâl ar rai cerbydau i ddefnyddio'r ffyrdd ger Pontypridd a Chasnewydd.

Nod yr ymchwil yw darganfod "atebion posib" i wella ansawdd yr aer yn yr ardaloedd hyn.

Ond dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth nad oes "unrhyw gynlluniau ar gyfer taliadau tagfeydd ar hyn o bryd".

Mae'r arolwg yn gofyn i bobl sut y byddai eu penderfyniadau teithio yn newid pe bai toll yn cael ei chyflwyno ar 1 Ionawr 2023 ar ddefnyddio'r A470 rhwng Glan-Bad a Phontypridd, a'r M4 rhwng cyffyrdd 25 a 26 yng Nghasnewydd.

'Tâl sengl dyddiol'

Mae'r ymchwil, ar ran Llywodraeth Cymru, yn awgrymu y byddai'r tâl Parth Aer Glân yn berthnasol i geir petrol a gofrestrwyd cyn 1 Ionawr 2006, a cheir disel a gofrestrwyd cyn 1 Medi 2015.

Cafodd opsiynau prisio posib hefyd eu cyflwyno gan amrywio o £3 i £8 ar gyfer ceir, ac o £6 i £12.50 ar gyfer cerbydau nwyddau ysgafn.

Gofynnwyd i yrwyr cerbydau nwyddau trwm, sydd heb eu heithrio, am eu hymateb i dâl posib o £50.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r tâl arfaethedig yn effeithio ar draffig drwy dwneli Bryn-glas

Mae'r arolwg yn esbonio pe bai tâl o'r fath yn cael ei weithredu, byddai'n "dâl sengl a fyddai'n cael ei godi'n ddyddiol".

Mae'n nodi fod lefelau llygredd yn y ddwy ardal o dan sylw yn uwch na'r terfynau cyfreithiol.

Mae Llywodraeth Cymru felly "wedi bod yn asesu atebion posib a phecynnau o fesurau i wella ansawdd aer a diogelu iechyd pobl".

Mae camerâu cyflymder cyfartalog eisoes wedi'u gosod yn y ddau leoliad i fynd i'r afael â'r mater.

Dywed yr arolwg fod y mesurau presennol wedi gwella ansawdd yr aer ond bod Llywodraeth Cymru "ar hyn o bryd yn datblygu atebion pellach gan gynnwys cyflwyno Parth Aer Glân, a allai olygu codi tâl ar rai mathau o gerbydau (gydag allyriadau uchel) sy'n teithio ar hyd y rhannau uchod o'r M4 a'r A470".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Pe bai toll yn cael ei gweithredu gan Lywodraeth Cymru, byddai'n "dâl sengl a fyddai'n cael ei godi'n ddyddiol"

Roedd y cynghorydd Sam Trask, cadeirydd Ceidwadwyr Rhondda Cynon Taf, yn un o'r rhai a oedd yn rhan o'r arolwg.

"Rwy'n gyrru car disel naw oed ac os y byddwn yn medru fforddio un, byddwn i eisoes yn gyrru car llai llygrol.

"Rwy'n teimlo os yw Llywodraeth Cymru yn mynd i godi tâl arnaf i ddefnyddio ffordd rydw i'n ei defnyddio ddwywaith y dydd i fynd yn ôl ac ymlaen i'r gwaith, yna maen nhw mewn gwirionedd yn mynd i roi'r dyhead hwnnw hyd yn oed ymhellach allan o gyrraedd ac rydw i'n mynd i fod yn llai tebygol o allu fforddio car gwell.

"Rwy'n credu pe bai'r cynigion hyn yn mynd yn eu blaenau, byddent yn cael effaith andwyol ar y bobl tlotaf yn ein cymdeithas, mewn ffordd annheg, oherwydd dyma'r mathau o bobl na all fforddio car trydan mwy modern."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yr M4 o amgylch Casnewydd ydy'r man prysuraf ar unrhyw ffordd trwy Gymru gyfan

Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo'r llywodraeth o chwilio am "benawdau" ynglŷn â'r awgrym o dollau ar yr A470.

"Yn hytrach na chynnig syniadau polisi arloesol fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r broblem sydd dirfawr angen ei thaclo, mae'r Llywodraeth yn hytrach wedi troi at benawdau newyddion," meddai'r meddai AS dros Canol De Cymru, Heledd Fychan.

"Mae'r argyfwng hinsawdd yn real. Mae llygredd aer yn real. Mae angen datrysiadau radical. Nid yw gosod tollau ar un darn o lon yn ddatrysiad radical.

"Y cyfan y bydd yn ei wneud yw gyrru pobl i osgoi'r taliadau drwy fynd trwy gymunedau cyfagos a thrwy hynny wthio llygredd i'r cymunedau hynny gan waethygu llygredd aer a thagfeydd."

Ychwanegodd y Ceidwadwyr Cymreig fod y syniad o osod tollau yn "hollol hurt".

"Mae'r syniad o gael tollau ar ddwy o ffyrdd prysuraf Cymru yn chwerthinllyd, ac fe fyddai'n ergyd i bobl sy'n gweithio'n galed," meddai llefarydd y blaid ar drafnidiaeth, Natasha Asghar.

"Mae cosbi pobl am yrru car hŷn, mwy na thebyg oherwydd nad ydyn nhw'n gallu fforddio un newydd sbon, yn annerbynniol, ac yn dangos bod y Llywodraeth Lafur yn wrth-yrwyr a gwrth-dwf."

'Dim unrhyw gynlluniau'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ar hyn o bryd nid oes unrhyw gynlluniau ar gyfer taliadau tagfeydd.

"Mewn darn o waith ar wahân, yn unol â'n rhwymedigaethau cyfreithiol i leihau lefelau niweidiol o nitrogen deuocsid, rydym wedi comisiynu arolygon i gael barn pobl ar gynigion Parthau Aer Glân ar yr M4 rhwng cyffyrdd 25 a 26 yng Nghasnewydd ac ar yr A470 rhwng Glan-Bad a Pontypridd."

Roedd yr arolwg yn para tan 31 Awst ac erbyn hynny roedd 3,017 o ymatebion wedi'u derbyn.