Annog pobl i gefnogi ffrindiau sy'n brwydro canser

  • Cyhoeddwyd
cobiFfynhonnell y llun, Cobi Flowers
Disgrifiad o’r llun,

Cobi Flowers wrth iddo ddechrau cael triniaeth am ganser

Mae hyfforddwr rygbi sydd wedi treulio bron 18 mis yn brwydro am ei fywyd yn erbyn canser yn annog pobl ifanc i fod yn gefn i'w ffrindiau mewn sefyllfa debyg.

Yn ôl ymchwil diweddar gan y Teenage Cancer Trust mae dros hanner y bobl ifanc sy'n derbyn triniaeth canser wedi cael profiad o ffrindiau'n lleihau cysylltiad ar ôl iddynt fynd yn sâl.

Roedd 40% o'r rhai a gafodd eu holi wedi cael profiad o ffrindiau'n rhoi'r gorau i gysylltu â nhw yn gyfan gwbl.

Un sydd wedi cael profiad tebyg yw Cobi Flowers o Gaerdydd.

Ar ôl cael gwybod fis Mawrth y llynedd ei fod yn diodde' gyda Hodgkin's Lymphoma - math o ganser gwaed sy'n gyffredin ymysg pobl rhwng 15 a 34 oed - roedd am rannu'r newyddion drwg gyda thîm rygbi mae'n ei hyfforddi.

Disgrifiad,

'Ydw i dal am fod 'ma amser 'Dolig, beth yw'r worst case?'

Meddai Cobi wrth Cymru Fyw: "Oedd hi'n amser cyfnod clo Covid ac o'n i mewn cyfarfod Zoom gyda nhw.

"Rwy'n cofio tua 20 o sgrîns bach ar y cyfrifiadur o 'mlaen i, pawb yn bubbly ac yn cracio jôcs.

"Wedyn dweud 'drychwch bois mae gennai canser', a bron yn yr un foment pob un o'r sgrîns yn mynd yn ddu ac oedd hynny yn anodd."

Ffynhonnell y llun, Cobi Flowers
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth criw o'i gyfeillion ddangos eu cefnogaeth i Cobi (ar y chwith) drwy shafio'u pennau pan oedd yn cael triniaeth

Ar ôl dod dros y sioc gychwynnol mae'n dweud bod y criw wedi dod at ei gilydd a'i gefnogi drwy fisoedd o driniaeth anodd.

Dywedodd Helen Veitch o'r Teenage Cancer Trust: "Mae'n gwbl ddealladwy i deimlo ofn neu ddim gwybod beth i ddweud os mae un o dy ffrindiau gyda chanser.

"Ond mae peidio cysylltu â ffrind oherwydd chi'n teimlo'n lletchwith yn gallu neud iddyn nhw deimlo fel bo' chi wedi anghofio amdanyn nhw pan maen nhw wir angen chi.

"Siaradwch â nhw am sut chi'n teimlo, gofynnwch sut gallwch chi gefnogi nhw a chofiwch bod gwybodaeth ar gael drwy wefan y Teenage Cancer Trust".

Hanes Cobi

Dechreuodd Cobi deimlo'n wael yn dilyn trip pêl-droed i'r Almaen yn 2019.

"O'n i yn teimlo yn run-down ac wedi blino trwy'r adeg. O'n i yn cael trafferth anadlu.

"Pan o'n i yn chware rygbi o'n i yn poeri i fyny ac yn tagu a phopeth. O'n i'n dechrau meddwl bod pethau ddim yn iawn."

Ffynhonnell y llun, Cobi Flowers
Disgrifiad o’r llun,

Dangosodd un sgan fod gan Cobi diwmor mawr yn agos i'w ysgyfaint

Wedi misoedd o fynd yn nôl ac ymlaen at y meddyg teulu heb ateb pendant am beth oedd yn bod, cafodd yr hyfforddwr rygbi a phêl-droed brofion yn yr ysbyty.

Yn anffodus roedd y newyddion yn ddrwg.

Roedd tiwmor dros 7cm o hyd yn agos i'w ysgyfaint ac roedd angen cychwyn triniaeth yn syth.

Dywedodd Cobi: "Fi'n cofio eistedd yn yr ardd tu fas ar ben fy hun yn crio jyst yn meddwl am bopeth. Jest edrych lan a gofyn 'pam fi?'

"Dwi ddim yn 'smygu, dwi ddim yn yfed lot, dwi ddim yn cymryd cyffuriau.

"Ond wedyn yn yr un foment meddwl - wel pam ddim fi? Mae pobl yn diodde' o bethau lot gwaeth yn y byd.

"Mae cyfle gen i i ymladd yn ôl yn erbyn hyn ac o'n i yn benderfynol byswn i yn dod mas o hyn yr ochor arall.

"Dwi wedi cymryd hyn fel her bersonol. Ers y foment yna dwi ddim wedi crio na' teimlo'n flin dros fy hun."

Ffynhonnell y llun, Cobi Flowers
Disgrifiad o’r llun,

Cychwynnodd Cobi, 26, ar chwe mis o driniaeth yn cynnwys cemotherapi a llawdriniaeth

Cychwynnodd Cobi, 26, ar chwe mis o driniaeth yn cynnwys cemotherapi a llawdriniaeth i drawsblannu celloedd iach i'r corff.

Ond er gwaetha'r holl driniaeth ddwys bu Cobi, sy'n is-hyfforddwr i dîm cyntaf rygbi Prifysgol De Cymru ac yn rhedeg clwb pêl-droed Clwb Sparta yng Nghaerdydd, yn parhau i gadw'n brysur.

Erbyn hyn, Cobi yw llywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol De Cymru.

"Weithiau o'n i yn gorfod atgoffa fy hun bod canser arnaf i ac fy mod i'n sâl iawn," meddai.

"Efallai mi o'n i ddim yn edrych yn normal ond o'dd yn bwysig i fi fy mod i yn perfformio yn normal.

"O'dd neb yn siŵr os fysa'r driniaeth yn gweithio mas felly o'n i yn neud yn siŵr fy mod i yn neud be o'n i eisiau neud."

'Persbectif gwahanol'

Gyda chefnogaeth ei deulu a llu o ffrindiau mae Cobi wedi dod drwy'r driniaeth ac mae pethau'n edrych yn fwy positif ar gyfer y dyfodol.

"Wythnos diwetha' nes i gychwyn ar beth mae'r meddygon yn gobeithio fydd y rownd ola' o driniaeth.

"Mae'r cyfnod yma wedi rhoi persbectif gwahanol ar fywyd. Mae rhywun yn gweithio oriau ac oriau yr wythnos a does dim bywyd hefo fo.

"Rwy'n edrych nôl a meddwl dylwn ni wedi cymryd cyfleoedd fel mynd i deithio.

"Ar ôl hyn i gyd rwy'n sicr bydd y dewisiadau fyddai'n gwneud ar gyfer y dyfodol yn wahanol i'r rhai byswn i wedi neud cyn mynd yn sâl."