Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth yn Y Barri

  • Cyhoeddwyd
Swyddogion heddlu yn West Walk ddydd Gwener
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i'r eiddo yma ar stryd West Walk yn yr oriau mân

Mae dyn 53 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn sgil "marwolaeth annisgwyl" dyn mewn eiddo ym Mro Morgannwg.

Cafodd swyddogion eu galw i'r eiddo ar stryd West Walk yn ardal Colcot, Y Barri tua 01:00 fore Gwener.

"Mae'r digwyddiad yma'n cael ei drin fel llofruddiaeth," medd datganiad y llu.

Nid yw'r dyn fu farw wedi'i adnabod yn ffurfiol eto.

"Mae hwn yn apêl uniongyrchol i'r gymuned leol a allai gynnig gwybodaeth mewn perthynas ag unrhyw weithgaredd amheus yn ardal West Walk yn y Barri a'r cyffiniau, yn enwedig rhwng nos Lun a bore Gwener, 3 Medi," meddai Ditectif Uwch-arolygydd Darren George.

"Ni waeth pa mor ddibwys y credwch y gallai unrhyw wybodaeth fod, cysylltwch â'r ystafell ddigwyddiadau fawr."

Mae swyddogion yn dal yn cynnal ymholiadau yn yr eiddo, ac mae ystafell neilltuol wedi ei sefydlu o fewn Gorsaf Heddlu Canol Caerdydd ar gyfer yr ymchwiliad.

Mae gofyn i unrhyw un all gynnig gwybodaeth gysylltu gyda'r Tîm Troseddau Mawr gan ddyfynnu'n cyfeirnod 2100309626.

Pynciau cysylltiedig