Arestio dyn wedi i ddynes gael ei chanfod yn anymwybodol
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei arestio wedi i ddynes gael ei chanfod yn anymwybodol yn Nhonyrefail yn Rhondda Cynon Taf.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Stryd Meyler ychydig cyn 13:00 brynhawn Sadwrn.
Dywed Heddlu'r De bod y ddynes 33 oed wedi cael ei chludo i'r ysbyty a'i bod yn cael ei thrin am anafiadau difrifol.
Dywed plismyn bod dyn 36 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol.