Amddiffyn penderfyniad i gynnal Hanner Marathon Môn
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd Cyngor Môn wedi amddiffyn y penderfyniad i gynnal hanner marathon Môn ddydd Sul, er bod cyfraddau achosion Covid-19 y sir wedi cynyddu yn y mis diwethaf.
Dywedodd Llinos Medi bod "rhaid i ni ddechre ailymweld â'r pethe oeddan ni'n wneud yn flaenorol a gwneud hynny'n ofalus".
Bu dros fil o ddynion, merched a phlant yn cystadlu yn y gwahanol rasys, ac roedd yna dorfeydd niferus yn gwylio hefyd.
Dywedodd trefnydd y digwyddiad, Tim Lloyd: "Mae 'di bod yn andros o anodd dros y flwyddyn a hanner dwetha' i ni gyd… da ni'n falch i weld pobol yn cael amser da."
Dechreuodd y cystadlu ar Bont Menai am 08:00 efo'r rhedwyr yn croesi'r bont i Fôn gan anelu am Fiwmares ac yn ôl i'r llinell derfyn ym Mhorthaethwy.
Mae cyfraddau coronafeirws wedi cynyddu yn yr wythnosau diwethaf ar draws Cymru, gan gynnwys ar Ynys Môn, er ei bod ymhlith y siroedd gyda'r cyfraddau isaf.
Yn ôl data diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, hyd at fore Gwener 3 Medi, roedd cyfradd y sir dros saith diwrnod yn 297.0 i bob 100,000 o bobl. 407.2 yw'r gyfradd ar draws Cymru gyfan.
Normalrwydd - a balans
Mae Cyngor Môn wedi galw ar bobol i barhau i fod ar eu gwyliadwriaeth rhag lledu'r feirws.
Dywedodd Llinos Medi ddydd Sul: "Yn amlwg 'da ni gyd yn ymwybodol fod y cyfyngiadau wedi gollwng yma a mae rhaid i ni fwrw mlaen gyda'n bywydau ni.
"Mae'n bwysig iawn cael rhywfaint o normalrwydd felly mae'n rhaid i ni gael y balans rŵan o fod yn ofalus.
"Mi oedd hwn yn ddigwyddiad y tu allan - 'da ni gyd rŵan yn ymwybodol pa mor ddiogel ydi bod tu allan i gymharu efo bod tu mewn.
"Mae 'na asesiad risg wedi bod i'r digwyddiad yma a mae'n bwysig iawn bod y rhai sydd yn rhedeg a'r cefnogwyr yn cael teimlad o normalrwydd ond cofio bod y coronavirus ma' dal o'n cwmpas ni.
Ychwanegodd bod y cyngor yn "dal i hyrwyddo pobol i fynd am brawf ac os nad ydach chi wedi bod am eich brechiad plîs ewch."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mai 2021