Stryd y Castell: Dechrau'r gwaith i geir ddychwelyd
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i waith ffordd ddechrau yng Nghaerdydd ddydd Llun fydd yn caniatáu i geir ddychwelyd i un o'r prif ffyrdd yng nghanol y ddinas.
Fe wnaeth Stryd y Castell ailagor i fysiau a thacsis ym mis Tachwedd ond mae'n parhau ynghau i gerbydau ers iddo gael ei drawsnewid yn ardal fwyta awyr agored yr haf diwethaf yn sgil y pandemig.
Mae'n fwriad gan Gyngor Caerdydd i ailagor y ffordd yn llawn erbyn diwedd mis Hydref.
Mae gyrwyr a thrigolion wedi cwyno bod trafferthion traffig wedi cynyddu mewn ardaloedd cyfagos, ond mae grwpiau amgylcheddol yn dadlau o blaid mwy o ofod ar gyfer cerddwyr a seiclwyr.
'Llygredd mewn ardaloedd cyfagos'
Mae'r cyngor yn darogan cynnydd o 40% yn lefelau nitrogen diocsid ar y ffordd pan fydd wedi ailagor yn llwyr, ond mae swyddogion yn dweud bod mwy o lygredd ar strydoedd preswyl cyfagos yn sgil cau Stryd y Castell.
Mae'r gwaith sydd ar fin dechrau yn cynnwys culhau palmant ochr ddeheuol y stryd er mwyn creu lle ar gyfer lôn ychwanegol o draffig.
Bydd y gwaith yn digwydd rhwng 20:00 a 06:00 fel bod y stryd yn parhau ar agor i fysiau a thacsis yn ystod y dydd.
Wrth gadarnhau'r cynlluniau ailagor ym Mehefin, dywedodd arweinydd y cyngor Huw Thomas bod y trefniadau cyfredol yn achosi mwy o lygredd yn ardaloedd cyfagos Grangetown, Tre-biwt a Glan-yr-Afon.
Dywedodd y cyngor bod ymgynghoriad, a ddenodd dros 6,000 o ymatebion, yn dangos bod 54% yn dymuno ailagor y ffordd i geir preifat, a 34% o blaid eu cadw draw.
Ond mae ymgyrchwyr amgylcheddol yn dadlau y byddai ailagor y ffordd i bob cerbyd yn niweidiol, wedi i adroddiadau ddangos bod ansawdd aer y ddinas wedi gwella'n sylweddol yn ystod cyfnodau clo.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn dweud y byddai gweld ceir yn dychwelyd i'r ffordd yn siomedig.
'Lleihau llygredd yn y cyfnod byrraf posib'
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Bydd trefn newydd y ffordd yn sicrhau bod y cyngor yn cwrdd â'i ofynion cyfreithiol i leihau llygredd ar Stryd y Castell i lefelau derbyniol yn y cyfnod byrraf posib."
Ychwanegodd bod y drefn newydd hefyd yn "cyfateb i gynllun gwreiddiol y cyngor ar gyfer y ffordd, fel yr amlinellwyd yn y cynllun aer glan y cynhyrchodd Cyngor Caerdydd ac a gafodd ei gymeradwyo maes o law gan Lywodraeth Cymru yn 2019".
Mae cynigion blaenorol wedi cynnwys cyflwyno tâl o £2 am yrru i ganol Caerdydd er mwyn mynd i'r afael â phroblemau traffig a llygredd.
Roedd hynny wedi i ymchwil ddangos bod lefelau ansawdd aer y ddinas ymhlith y gwaethaf drwy'r DU.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2019