Gollyngiad amonia 2Sisters: Pump yn gadael yr ysbyty

  • Cyhoeddwyd
Arwydd 2 Sisters, Llangefni

Mae pump o bobl wedi cael eu rhyddhau o'r ysbyty ar ôl cael eu cludo yno yn dilyn gollyngiad cemegol mewn ffatri yn Ynys Môn.

Cadarnhaodd cwmni 2Sisters ddydd Llun bod amonia wedi gollwng yn eu safle yn Llangefni.

Cafodd pedwar o bobl driniaeth yn y fan a'r lle gan y gwasanaeth ambiwlans ac fe gafodd pum person yn rhagor sylw meddygol pellach yn yr ysbyty fel cam rhagofalus.

Dywedodd y cwmni ddydd Mawrth bod ymchwiliad yn parhau i'r digwyddiad.

Disgrifiad o’r llun,

Arwydd ar safle'r ffatri yn Llangefni

Ychwanegodd datganiad y cwmni: "Byddwn ni'n cydweithio'n agos gyda'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn y dyddiau nesaf i gadarnhau'r ffeithiau a byddwn yn aros am eu hadroddiad swyddogol ac argymhellion yn sgil y digwyddiad."

Pynciau cysylltiedig