Dyn busnes i fuddsoddi £200,000 ym maes awyr Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae'r dyn busnes sy'n gweithredu Maes Awyr Abertawe yn buddsoddi £200,000 ar un o'r llwybrau glanio, yn ôl un o gynghorwyr y ddinas.
Fe wnaeth y Cynghorydd Robert Francis-Davies y sylw mewn cyfarfod lle cafodd y maes awyr ei drafod.
Cyngor Abertawe yw perchnogion y maes awyr.
Fe holwyd y grŵp Llafur - sy'n rhedeg yr awdurdod - a fu'r maes awyr erioed yn rhan o drafodaethau'r ddêl ddinesig i ranbarth Bae Abertawe, neu a oedd y cyngor yn gweithio gyda grŵp ehangach i ddatblygu polisi awyr.
Dywedodd y Cyng Francis-Davies - sydd â chyfrifoldeb am fuddsoddiad, adfywio a thwristiaeth ar gabinet y cyngor - na fu'r maes awyr yn rhan o'r drafodaeth cyn belled â'i fod yn gwybod.
Ychwanegodd: "Mae gennym denant yn y maes awyr, ac mae'r tenant yna yn buddsoddi £200,000 ar un o'r llwybrau glanio dros y flwyddyn nesaf."
Dywedodd y cynghorydd Jeff Jones o'r Democratiaid Rhyddfrydol ei fod yn credu y gallai'r maes awyr fod yn elfen bwysig o drafnidiaeth i Abertawe.
Ychwanegodd y byddai'r lle wedi elwa o gael arian o'r ddêl ddinesig, gyda'r potensial i fod yn ardal brofi ar gyfer awyrennau sy'n rhedeg ar drydan neu hydrogen yn y dyfodol.
Cafodd trwydded Maes Awyr Abertawe ei atal yn 2019 wedi i arolygiad diogelwch nodi nifer o bryderon.
Mae'n rhaid i feysydd awyr fel un Abertawe gael trwydded er mwyn eu defnyddio ar gyfer cwsmeriaid sy'n talu neu ar gyfer gweithgareddau masnachol fel hyfforddi.
Ers rhai blynyddoedd, mae'r maes awyr yn Abertawe wedi cael ei redeg, a'i sybsideiddio gan y dyn busnes Roy Thomas.
Yn flaenorol fe sefydlodd wasanaeth awyr i'r cyhoeddi o Abertawe o'r enw Air Wales, ond daeth y gwasanaeth yna i ben yn 2004.
'Adnodd gwych'
Mae Cyngor Abertawe yn gweithio gyda Mr Thomas ac ymgynghorydd awyrennau arbenigol, ac mae disgwyl arolygiad llawn gan yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) o fewn yr wythnosau nesaf.
Mae'r cyngor hefyd wedi cynnal sesiwn gyda chynrychiolwyr o grŵp o bobl a busnesau sy'n gefnogol i'r maes awyr.
Mae'r maes awyr yn ardal Fairwood o'r ddinas, ac yn agos i ward Pennard.
Dywedodd cynghorydd Pennard, Lynda James: "Fe hoffwn i ei weld yn cael ei ddefnyddio eto," meddai. "Gallai fod yn adnodd gwych i Abertawe."
Roedd cynghorwyr eraill yn cytuno y dylid cefnogi Mr Roy Thomas gyda'i ymdrechion i wella'r safle.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2017
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2012