Dyn yn pledio'n euog o geisio llofruddio'i bartner

  • Cyhoeddwyd
stephen gibbsFfynhonnell y llun, Dimitris Legakis/Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Stephen Gibbs yn cyrraedd y llys

Mae dyn 45 mlwydd oed o'r Barri wedi pledio'n euog ar ôl cael ei gyhuddo o geisio llofruddio'i bartner.

Cafodd Stephen Gibbs ei arestio yn dilyn digwyddiad yn ardal Lakeside yn Y Barri ym mis Ionawr eleni.

Mewn gwrandawiad llys blaenorol, fe wnaeth Gibbs gyfaddef iddo glwyfo ei bartner Emma Brown, 49, yn fwriadol, ond gwadodd y cyhuddiad o geisio ei lladd.

Yn ystod gwrandawiad byr yn Llys y Goron Caerdydd heddiw, newidiodd Gibbs ei ble gan gyfaddef iddo geisio llofruddio Ms Brown.

Clywodd y llys fod Gibbs eisoes wedi'i gofnodi fel "person peryglus" yn ôl y Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003.

Fe fydd Gibbs yn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Ferthyr Tudful ar Ddydd Gwener 8 Hydref.

Dywedodd y barnwr, Ustus Twomlow, y bydd Gibbs yn wynebu cyfnod "hir iawn" yn y carchar.

Pynciau cysylltiedig