Pennu dyddiad achos diffynnydd 'podlediadau hiliol'

  • Cyhoeddwyd
James Allchurch
Disgrifiad o’r llun,

James Allchurch yn cyrraedd Llys Y Goron Abertawe ddydd Mercher

Mae dyn o Sir Benfro wedi gwadu creu gwefan er mwyn dosbarthu podlediadau hiliol a gwrth-Semitaidd.

Mewn gwrandawiad yn Llys Y Goron Abertawe, fe blediodd James Allchurch, 49, yn ddieuog i 15 o gyhuddiadau o ddosbarthu recordiad sain gyda'r bwriad o geisio ysgogi casineb hiliol.

Mae'r cyhuddiadau'n ymwneud â deunydd yr honnir sy'n sarhau pobl o gymunedau du a lleiafrifoedd ethnig.

Mae disgwyl i'r achos llawn yn erbyn Mr Allchurch gael ei gynnal yn Llys Y Goron Abertawe ym Mehefin 2022, gan bara am bythefnos.

Cafodd fechnïaeth ddiamod.

Pynciau cysylltiedig