Morgannwg yn cael cweir arall yn erbyn Sir Gaerloyw

  • Cyhoeddwyd
Chris DentFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y capten Chris Dent sgoriodd y rhediadau buddugol i Sir Gaerloyw fore Mercher

Fe gwblhaodd Sir Gaerloyw fuddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Morgannwg yng Nghaerdydd ddydd Mercher - y drydedd gweir yn olynol i'r Cymry ym Mhencampwriaeth y Siroedd.

Cafodd Morgannwg 309 yn eu batiad cyntaf, cyn i Sir Gaerloyw ymateb gyda 419 i roi mantais o 110 o rediadau i'r ymwelwyr ar ddiwedd y batiad cyntaf.

Roedd y Cymry wedi cael eu cyfyngu i 57-6 ar ddechrau eu hail fatiad brynhawn Mawrth - 53 rhediad tu ôl i Sir Gaerloyw ar ddechrau'r diwrnod olaf, ond roedd gan yr ymwelwyr fatiad mewn llaw hefyd.

Llwyddodd Morgannwg - o drwch blewyn - i osgoi colli eu trydedd gêm yn olynol o fatiad llawn, gan gyrraedd cyfanswm o 124 cyn colli eu wiced olaf.

Roedd hynny'n gosod targed o 15 i Sir Gaerloyw, ac fe lwyddon nhw i basio hynny o fewn naw pêl heb golli'r un wiced.

Pynciau cysylltiedig