Pryder yn cynyddu am ddyn ar goll o ardal Machynlleth
- Cyhoeddwyd
Dywed Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn gynyddol bryderus am les Anthony Oldham o Benegoes ger Machynlleth.
Dyw Mr Oldham, 47, ddim wedi cael ei weld ers 12 Medi pan adawodd ei gartref i fynd am dro.
Dywed ei wraig Natalie ei bod hi'n hynod bryderus ac mae wedi anfon neges yn apelio arno i roi gwybod ei fod yn ddiogel: "Anthony, ry'n ni angen gwybod dy fod yn iawn ac ry'n ni eisiau i ti ddod adref.
"Ry'n ni yn dy golli di - mae'r plant a'r gymuned gyfan yn dymuno i ti ddod adref."
Mae Mr Oldham yn cael ei ddisgrifio fel dyn chwe troedfedd o daldra, moel ac o faint canolig.
Cafodd ei weld ddiwethaf yn gwisgo trowsus du a chrys-t tywyll.
'Pob adnodd sydd ar gael'
Dywedodd Sarjant David Hawksworth, o Heddlu Dyfed-Powys bod diflannu heb ddweud wrth unrhyw un arall ddim yn arferol i Mr Oldham.
"Fe wnaethon ni ddechrau gyda'r chwilio arferol dydd Llun ond ers hynny rydyn ni'n pryderu ei fod wedi'i anafu," meddai.
"Rydym nawr yn defnyddio cymaint o adnoddau chwilio ag sy'n bosib.
"Rydym yn hyderus bod Anthony o fewn ardal gyffredinol Machynlleth a heb deithio lot yn bellach.
"Rydym yn teimlo'n fwyfwy pryderus dros les Anthony oherwydd yr amser mae wedi bod ar goll," ychwanegodd.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am Mr Oldham gysylltu gyda'r heddlu arlein, dolen allanol, neu ffonio 101.