Carcharu dyn am dreisio wedi tystiolaeth CCTV

  • Cyhoeddwyd
Turkey al-TurkeyFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Turkey Al-Turkey wedi cael gwybod y bydd yn gorfod gadael y DU wedi ei gyfnod yn y carchar

Mae ceisiwr lloches Iracaidd, a wnaeth dreisio dynes ar bromenâd Abertawe, wedi cael gwybod y bydd yn cael ei alltudio wedi iddo gwblhau ei ddedfryd yn y carchar.

Clywodd Llys y Goron Abertawe ddydd Iau nad yw'r dioddefwr yn cofio dim am y digwyddiad a'i bod hi'n bosib bod cyffur treisio wedi'i ddefnyddio.

Cafodd Turkey Al-Turkey, 26, ei weld yn ymosod gan weithiwr camera cylch cyfyng y Ganolfan Ddinesig yn ystod oriau mân 18 Gorffennaf.

Ar noson yr ymosodiad roedd Al-Turkey, o Ffordd Cwm Level ym Mrynhyfryd wedi bod yn yfed limoncello a fodca gyda'r dioddefwr ar y prom.

Dywed y gweithredwr CCTV ei bod yn gallu gweld bod y ddioddefwraig wedi meddwi a methu sefyll a bod Al-Turkey wedi ymosod arni wrth iddi orwedd yn gwbl llonydd.

Gan ddefnyddio offer sain y cyngor fe waeddodd y gweithredydd camera arni: "Cer oddi arni. Mae wedi meddwi. Rwy'n galw'r heddlu."

Fe gyrhaeddodd yr heddlu am 01:40 ac fe ddywedodd Al-Turkey wrth swyddogion ei bod hi'n cysgu.

Roedd swyddogion yn methu â'i deffro a doedd hi ddim yn gallu siarad.

Yn swyddfa'r heddlu dywedodd wrth swyddogion nad oedd hi'n gallu cofio yr hyn oedd wedi digwydd a chafodd hi ddim gwybod am yr ymosodiad tan ar ôl hynny.

Wrth roi tystiolaeth dywedodd Carina Hughes, ar ran yr erlyniad, nad oedd profion tocsicoleg wedi canfod unrhyw gyffuriau yn wrin y dioddefwr.

Ychwanegodd bod lefel yr alcohol yn 62 miligram i bob 100 mililitr a gan bod cyffuriau fel GHB ddim yn aros am gyfnod hir yn y corff dywedodd nad oedd modd diystyru yn llwyr eu presenoldeb.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Al-Turkey ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe

'Wedi lladd fy ysbryd llawen'

Yn ystod y gwrandawiad cafodd datganiadau gan y ddioddefwraig a'r gweithredwr CCTV eu darllen.

"Fydd yr hyn a ddigwyddodd i fi yn aros gen i am weddill fy mywyd," medd y ferch a gafodd ei threisio.

"Mae e wedi lladd fy ysbryd llawen, ffwrdd â hi ac amser a ddengys a fydd yr elfennau yma yn dychwelyd.

"Yr unig beth cadarnhaol am y cyfan yw ei fod nawr wedi'i ddal a fydd e ddim yn gallu brifo neb arall."

Yn ei ddatganiad dywedodd y gweithredwr CCTV ei fod yn ei chael hi'n anodd ymdopi ac ychwanegodd ei fod yn ailchwarae'r digwyddiadau yn ei feddwl.

Ychwanegodd yr erlynydd Carina Hughes bod cael tystiolaeth o'r math yma ar ddyfais CCTV yn brin.

Dywedodd y Barnwr Paul Thomas QC wrth Al-Turkey fod ganddo "amheuon difrifol" wedi iddo weld y ffilm ai alcohol yn unig a oedd wedi achosi'r dioddefwr i fod yn y fath gyflwr.

"Fe wnaeth hi'n gwbl amlwg i chi nad oedd hi am gael perthynas rhywiol y noson honno ond fe roddoch chi gymaint o alcohol iddi fel nad oedd yn bosib iddi sefyll na hyd yn oed symud heb gymorth," dywedodd.

"Fe fanteisioch chi ar y sefyllfa gan roi blaenoriaeth i'ch anghenion rhywiol yn hytrach nag effaith y digwyddiad arni hi."

Cafodd Al-Turkey ei ddedfrydu i wyth mlynedd ac wyth mis yn y carchar ac fe fydd yn cael ei roi ar restr troseddwyr rhyw am weddill ei fywyd.

Gan iddo bledio'n euog yn gynnar fe gafodd ddedfryd fyrrach na pe byddai wedi ei gael yn euog gan reithgor.

Fe fydd yn cael ei ryddhau ar ôl chwe blynedd.

Clywodd y llys bod Turkey Al-Turkey wedi cyflwyno ei hun i uned ceiswyr lloches yn Croydon ar 19 Tachwedd 2018 gan ddweud ei bod newydd gyrraedd y DU.

"Rwy'n disgwyl y byddwch yn cael eich gorfodi i adael y wlad hon yn syth wedi i chi gael eich rhyddhau o'r carchar," ychwanegodd y Barnwr Paul Thomas QC.

Pynciau cysylltiedig