'Penderfyniad anodd' ar brofion PCR i deithwyr i Gymru

  • Cyhoeddwyd
SbaenFfynhonnell y llun, Reuters

Dylai Llywodraeth y DU gadw'r rheolau ynglŷn â phrofion PCR ar gyfer teithwyr sy'n dychwelyd o dramor, meddai Prif Weinidog Cymru.

O ddechrau mis Hydref ni fydd angen cymryd prawf cyn teithio dramor o Loegr, nag wyth diwrnod ar ôl dychwelyd i'r wlad.

Yn hwyrach yn y mis, ni fydd angen cymryd prawf PCR o gwbl - fe fydd teithwyr ond angen gwneud prawf llif unffordd deuddydd ar ôl dychwelyd.

Dydy Llywodraeth Cymru heb wneud penderfyniad ar newidiadau i'r rheolau teithio yma eto.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, bod y polisi yn "gam i ffwrdd" o ddyletswydd Llywodraeth y DU i amddiffyn iechyd y cyhoedd.

"Y peth mwyaf pryderus oedd y penderfyniad i symud i ffwrdd o'r profion PCR deuddydd ar ôl i berson ddychwelyd o dramor," meddai.

"Hynny oedd yr amddiffyniad cryfaf yn erbyn mewnforio'r feirws o lefydd eraill o gwmpas y byd."

Er nad yw Llywodraeth Cymru wedi penderfynu ar y polisi eto, dywedodd Mr Drakeford bod newid Llywodraeth y DU wedi'i wneud yn "benderfyniad anodd" wrth ystyried faint o bobl o Gymru sy'n teithio trwy feysydd awyr yn Lloegr.

Ychwanegodd y bydd penderfyniad yn cael ei "gyhoeddi'n fuan".