Gweinidog Iechyd i ystyried rheolau teithio newydd y DU

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Merch ar draeth dramorFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Llywodraeth Cymru'n parhau i gynghori pobl i osgoi teithio dramor oni bai bod rhaid er gwaethaf y newidiadau diweddaraf i'r system deithio ryngwladol.

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU brynhawn Gwener eu bod yn symleiddio'r system goleuadau traffig, gan adael dim ond dau gategori o ddydd Lun, 4 Hydref - y rhestr goch a rhestr agored 'Gweddill y Byd'.

Ni fydd angen i deithwyr sydd wedi eu brechu'n llawn gael profion PCR ar ôl cyrraedd adref o dramor o wledydd sydd ar y rhestr goch.

Dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru, Eluned Morgan y bydd "yn ystyried yn ofalus newidiadau arfaethedig Llywodraeth y DU i'r mesurau iechyd ar y ffiniau, sy'n cynnwys dileu'r gofyniad i gael prawf cyn ymadael a chyflwyno profion llif unffordd yn lle profion PCR ar yr ail ddiwrnod ar ôl i deithwyr ddychwelyd i'r DU".

Ychwanegodd: "Nid yw'r newidiadau hyn yn ddi-risg - maent yn gwanhau'r llinell amddiffyn rhag mewnforio heintiau ac maent yn cynyddu cyfleoedd i heintiau newydd ac amrywiolion newydd gyrraedd y DU a Chymru.

"Gall brechlynnau helpu i leihau'r risg hon, ond dim ond os byddant yn effeithiol yn erbyn amrywiolion newydd sy'n peri pryder, amrywiolyn sy'n dod i'r amlwg sy'n peri pryder ac amrywiolion risg uchel sy'n destun ymchwiliad."

Bydd wyth gwlad yn dod oddi ar y rhestr goch o 04:00 fore Mercher, 22 Medi - Twrci, Pacistan, Ynysoedd y Maldives, Yr Aifft, Sri Lanka, Oman, Bangladesh a Kenya.