Diddymu euogfarn datblygwr tai am dorri coed

  • Cyhoeddwyd
Safle adeiladuFfynhonnell y llun, Tony Fitzgerald
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y coed eu torri wrth i gwmni Enzo Homes godi 80 o dai ger ystâd Penlle'r-gaer

Mae barnwr wedi diddymu euogfarn yn erbyn datblygwr tai a gafwyd yn euog o dorri 72 o goed oedd wedi eu gwarchod.

Ond gwrthodwyd apêl Fiorenzo Sauro mewn perthynas â dinistrio cochwydden hynafol.

Yn mis Awst 2019 cafwyd Mr Sauro a'i gwmni Enzo's Homes yn euog o dorri, diwreiddio neu ddinistrio o fwriad 73 o goed ar safle ym Mhenlle'r-gaer, Abertawe.

Ar y pryd dyfarnodd Barnwr Rhanbarth yn Llys Ynadon Abertawe bod Mr Sauro wedi dymchwel y coed yn fwriadol.

'Nid yn weithred fwriadol'

Ond ddydd Gwener, yn Llys y Goron y ddinas, dywedodd y Barnwr Christopher John Vosper: "Rydym o'r farn nad oedd hyn, fel y barnodd y Barnwr Rhanbarth, yn weithred fwriadol, er mwyn gwneud elw i'r cwmni.

"Mae'n ymddangos i ni nad oedd unrhyw fantais ariannol i Mr Sauro wrth dorri'r coed."

Clywodd y llys bod Mr Sauro wedi gadael ei reolwr safle, Carl Anderson, a'r contractwr Arwyn Morgan, i ddelio gyda Gorchymyn Diogelu Coed (TPO) a oedd mewn grym ar y safle.

Ychwanegodd y Barnwr Vosper: "Rydym yn fodlon nad oedd, i fod yn fanwl gywir, yn gamgymeriad, ond yn hytrach yn esgeulustod ar ran Mr Anderson, ac o bosib Mr Sauro a achosodd i'r coed gael eu torri i lawr."

Agwedd 'ffwrdd a hi'

Roedd rhyw agwedd "ffwrdd a hi" yno, meddai.

"Mae'n gwbl eglur nad oedd gan Mr Anderson afael clir o'r sefyllfa mewn perthynas â'r TPO yn yr achos hwn.

"Pe bai o wedi ei ddeall, y mae tu hwnt i amgyffred rhywun y byddai wedi dweud unrhyw beth heblaw: 'dwyt ti ddim i ddymchwel y gochwydden'.

"Ein safbwynt ni felly yw bod Mr Sauro, fel cyfarwyddwr y cwmni, yn syml iawn wedi bod yn esgeulus wrth fethu sicrhau bod goruchwyliaeth digonol o'r ffordd y cafodd y coed eu dymchwel ar y safle.

"Am y rhesymau hynny, bydd yr apêl yn erbyn y ddau gyhuddiad sy'n ymwneud â'r 72 coeden yn cael ei ganiatáu, ond nid mewn perthynas â'r gochwydden."

Ffynhonnell y llun, Andy Thorndycraft
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y gochwydden wedi cael eu phlannu yn 1842

Cafodd y coed eu plannu 1842 gan berchennog hen ystâd Penlle'r-gaer, y botanegydd John Dillwyn Llewelyn.

Yn yr achos gwreiddiol dywedodd Mr Sauro bod y gochwydden wedi'i thorri'n ddamweiniol wedi i rywrai beidio â dilyn ei gyfarwyddiadau.

Cafodd y datblygwr ddirwyon o £180,000 a £7,500 mewn costau a chafodd cwmni Enzo Homes ddirwy o £120,000 a £7,500 mewn costau.

Ar ôl pledio'n euog, cafodd Arwyn Morgan, 51, ddirwy o £120,000 a gorchymyn i dalu £2,000 o gostau.

Dywedwyd ar y pryd bod amcan-werth y gochwydden dros £66,000, tra bod y 72 coeden arall werth £1,000 yr un.

Yn dilyn gwrandawiad ddydd Gwener, cafodd dirwy Mr Morgan ei lleihau i £6,000.

Pynciau cysylltiedig