Canfod corff wrth chwilio am ddyn ar goll ym Machynlleth

  • Cyhoeddwyd
Anthony Oldham
Disgrifiad o’r llun,

Mae teulu Antony Oldham o Benegoes wedi cael gwybod am y datblygiad

Mae plismyn sydd wedi bod yn chwilio am ddyn coll yn ardal Machynlleth wedi dod o hyd i gorff.

Dywed Heddlu Dyfed-Powys nad yw'r corff wedi cael ei adnabod yn swyddogol ond bod teulu Antony Oldham o Benegoes wedi cael gwybod am y datblygiad diweddaraf.

Cafwyd hyd i'r corff ddydd Sul. Doedd Mr Oldham, 47, ddim wedi cael ei weld ers 12 Medi pan adawodd ei gartref i fynd am dro.

Yr wythnos ddiwethaf dywedodd ei wraig Natalie ei bod hi'n hynod bryderus ac fe anfonodd neges yn apelio ar i'w gŵr roi gwybod ei fod yn ddiogel.

"Ry'n ni yn dy golli di - mae'r plant a'r gymuned gyfan yn dymuno i ti ddod adref," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu eu bod yn meddwl am y teulu ar gyfnod mor anodd.

Pynciau cysylltiedig