Rheolwyr ambiwlans yn 'holi eto am gefnogaeth filwrol'
- Cyhoeddwyd
Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru'n chwilio am gefnogaeth gan y fyddin unwaith yn rhagor wrth i'r pwysau gynyddu yn sgil achosion coronafeirws.
Mae gwledydd eraill y DU eisoes wedi gofyn i'r fyddin am gefnogaeth - ar gyfer gwasanaethau ambiwlans yn Yr Alban a Lloegr ac ar gyfer ysbytai yng Ngogledd Iwerddon.
Dywed prif weithredwr y gwasanaeth y bydd y cais am gefnogaeth yn help "i ennill y blaen" ar drothwy "gaeaf caled".
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig, sy'n cynnal dadl ar y sefyllfa yn y Senedd ddydd Mercher, wedi erfyn ar Lywodraeth Cymru i dderbyn cynnig Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart, o gefnogaeth y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Fe wnaeth milwyr helpu'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru ymdopi â phwysau'r gaeaf diwethaf trwy yrru ambiwlansys.
Yn ystod misoedd cynnar y pandemig, fe wnaeth y fyddin helpu i ddosbarthu offer PPE hefyd, ac adeiladu ysbyty dros dro yng Nghaerdydd.
Dywedodd prif weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Jason Killens: "Mae Covid-19 wedi creu her fel na welwyd o'r blaen, ond mae'r ychydig fisoedd diwethaf yn arbennig wedi creu pwysau sylweddol a pharhaus ar ein gwasanaeth ambiwlans.
"Mae'r Ymddiriedolaeth yn dechrau dychwelyd i rai o'r trefniadau oedd mewn grym ar frig y pandemig er mwyn cael gwell rheolaeth ar y cynnydd mewn gweithgaredd cysylltiedig â Covid-19.
"Fel rhan o hyn, rydym yn chwilio am gefnogaeth asiantaethau eraill fel y gwnaethom ni yn y gorffennol, gan gynnwys y lluoedd arfog...
"Mae gwaith yn mynd rhagddo ers nifer o wythnosau i hwyluso hyn, gan gynnwys cefnogaeth o ran cynllunio logistaidd yn yr wythnos ddiwethaf gan gydweithwyr milwrol eu hunain.
"Bydd hyn yn ein galluogi i gael y blaen ar yr hyn rydym yn rhagweld a fydd yn aeaf caled, yn enwedig os rydych yn cyplysu'r galw yn sgil Covid-19 gyda'r ffliw tymhorol a phwysau arferol y gaeaf, y mae staff a gwirfoddolwyr ar draws Cymru eisoes yn dechrau ei brofi ym mis Medi."
Ychwanegodd Mr Killens: "Os yw'r sefyllfa'n dechrau gwella, gallwn dynnu rhai o'r camau ychwanegol hyn yn ôl ond mae hyn yn golygu rhoi ein hunain yn y sefyllfa orau bosib ar gyfer y gaeaf."
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru "yn datblygu opsiwn ar gyfer cefnogaeth filwrol".
"Mae'r gwasanaeth ambiwlans yn wynebu mwy o bwysau yn sgil y pandemig ac ar ddechrau cyfnod anodd y gaeaf," medd llefarydd.
Mae'r llywodraeth hefyd yn edrych ar "opsiynau eraill i gynyddu capasiti'r GIG, fel cydweithio gyda'r gwasanaethau tân ac achub a phenodi mwy o staff yn syth".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Awst 2021
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2020