Y fyddin i yrru ambiwlansys yn sgil pwysau ar GIG Cymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Ambiwlansys y tu allan i Ysbyty Athrofaol y Faenor, CwmbrânFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ambiwlansys y tu allan i Ysbyty Athrofaol y Faenor, Cwmbrân

Mae meddygon milwrol wedi cael eu galw gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru i'w helpu i ddelio â'r pandemig coronafeirws.

Bydd mwy na 90 o filwyr yn gyrru ambiwlansys o ddydd Mercher mewn ymgais i leddfu pwysau ar y gwasanaeth wrth i achosion barhau i godi.

Dyma fydd yr eildro iddyn nhw helpu yn ystod y pandemig.

Mae'r fyddin hefyd wedi helpu'r GIG yng Nghymru trwy ddosbarthu PPE ac adeiladu ysbyty dros dro yng Nghaerdydd.

Byddan nhw hefyd yn helpu i gyflwyno'r brechlyn.

Dywedodd prif weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Jason Killens fod "pwysau eithafol" wedi bod ar y gwasanaeth yn yr wythnosau diwethaf.

Ychwanegodd mai'r gaeaf "yw ein cyfnod prysuraf" ac y bwriad ydy eu "rhoi yn y sefyllfa orau bosib i ddarparu gwasanaeth diogel i bobl Cymru".

"Rydyn ni'n falch ac yn ddiolchgar unwaith eto i fod yn gweithio ochr yn ochr â'r fyddin yn yr ymdrech ar y cyd yn erbyn Covid-19, ac rwy'n gwybod y bydd cydweithwyr yn estyn yr un croeso cynnes ag y gwnaethon nhw'r tro cyntaf."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Aelod o'r RAF yn gweithio mewn canolfan brofi dros dro Covid-19 ym Merthyr Tudful ym mis Tachwedd

Mae eu cefnogaeth i Wasanaeth Ambiwlans Cymru yn rhan o'r trefniant Cymorth Milwrol i'r Awdurdodau Sifil (Maca).

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart, fod y cymorth yn "groesawgar ac yn galonogol".

Ychwanegodd Gweinidog y Lluoedd Arfog, James Heappey: "Rhaid i'r Deyrnas Unedig gyfan dynnu at ei gilydd os ydym am oresgyn coronafeirws a mynd yn ôl at y ffordd o fyw rydyn ni'n ei hadnabod a'i gwerthfawrogi.

"Bydd ein Lluoedd Arfog yn gwneud hyn eto yng Nghymru trwy ymuno ag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru am yr eildro eleni."