Poni welwch chwi'r deri'n ymdaraw?
- Cyhoeddwyd
Rwy'n ddigon hen i gofio'r "winter of discontent" - y gaeaf garw hwnnw o drybini gan yr undebau wnaeth ragflaenu cwymp llywodraeth Jim Callaghan ac ethol Margaret Thatcher yn brif weinidog.
Methiant y cynlluniau datganoli wnaeth orfodi cynnal etholiad 1979 ond does dim dwywaith taw anallu'r llywodraeth i ddelio ac amryfal broblemau llafur wnaeth esgor ar y canlyniad.
Mewn geiriau eraill roedd 1979 yn un o'r etholiadau hynny a gollwyd gan y llywodraeth yn hytrach nac yn un a enillwyd gan yr wrthblaid.
Mewn gwirionedd roedd maniffesto Mrs Thatcher yn denau ar y naw. Doedd dim sôn am breifateiddio, er enghraifft, na nifer o'r polisïau radicalaidd eraill oedd i'w cyflwyno dros y degawd nesaf.
Ond does dim angen llawer i drechu llywodraeth sydd wedi methu yn eu dyletswyddau mwyaf sylfaenol sef cadw'r goleuadau ymlaen a sicrhau bod bwyd ar y ford a'r sbwriel yn cael ei gasglu.
Nawr, os ydy'r lleisiau'n sy'n darogan gwae'r gaeaf hwn yn agos at fod yn gywir mae llywodraeth Boris Johnson yn wynebu storom berffaith yn ystod y misoedd nesaf.
Gallasai problemau cyflenwi, prisiau tanwydd, torri credyd cynhwysol a chynyddu yswiriant cenedlaethol brofi cot teflon y Prif Weinidog hyd syrffed. Os nad yw rheolau sylfaenol gwleidyddol, y rheiny sy'n ymwneud a'r angen i ddarparu bara a syrcas i'r cyhoedd er mwyn goroesi, wedi newid gallai'r Torïaid fod mewn môr o boen erbyn y gwanwyn.
Dyw'r hen dderwen Geidwadol yna ddim yn edrych hanner mor gadarn ag oedd hi chwe mis yn ôl ac mae'n bosib taw'r strategaeth orau i Lafur byddai efelychu Thatcher trwy ganolbwyntio ar wendidau deiliad rhif deg yn hytrach na phoeni'n ormodol am ddatblygu ei pholisïau ei hun.
Ond ar yn union eiliad yma mae Keir Starmer wedi penderfynu pigo ffeit ac asgell chwith y blaid. Rwy'n crafu fy mhen ynghylch y rheswm dros wneud hynny jyst wrth iddi ymddangos bod y duwiau gwleidyddol yn dechrau gwenu ar Lafur.
Efallai bod Syr Keir yn teimlo bod angen gwneud rhywbeth yn debyg i'r hyn wnaeth Neil Kinnock ynghylch Militant er mwyn estyn mas i'r tir canol. Y peryg yw y bydd Llafur yn ymddangos fel pe bai'n syllu i'w bogel ei hun a hynny mewn cyfnod o argyfwng.