Gareth Davies: Cofio taith y Llewod i Dde Affrica 1980
- Cyhoeddwyd
Dydd Sadwrn 7 Awst bydd tîm rygbi'r Llewod yn wynebu De Affrica mewn gêm brawf dyngedfennol. Gan bod un buddugoliaeth yr un wedi'r ddwy gêm gyntaf bydd enillwyr y drydedd gêm brawf yn ennill y gyfres.
De Affrica oedd lleoliad taith y Llewod yn 1980 hefyd, ble roedd system apartheid y wlad dal mewn bodolaeth. Un chwaraewr oedd ar y daith 1980 oedd y maswr o'r Tymbl, Gareth Davies.
"Roedd e'n hynod o gyffrous i gael eich dewis ar gyfer y daith," cofiai, "yn rhannol achos yn wahanol i chwaraewyr heddiw doedden ni ddim yn cael cyfle i deithio llawer y dyddiau hynny. Hefyd dim ond dau ym mhob safle oedd yn cael ei ddewis y pryd hynny, felly fe deithion ni yno fel carfan o 30."
Teithio i wlad Apartheid
Roedd rhywfaint o ddadlau a ddylai'r daith fynd yn ei blaen o gwbl. Yn 1977 fe arwyddodd Llywodraeth Prydain Gytundeb Gleneagles a olygai na fyddai gwledydd y Gymanwlad yn cefnogi delio â De Affrica yn y byd chwaraeon.
Roedd Llywodraeth Gweriniaeth Iwerddon yn gwrthwynebu hefyd, ond ym mis Ionawr 1980 fe gytunodd undebau rygbi gwledydd Prydain ac Iwerddon y dylai'r daith fynd yn ei blaen.
"Dwi ddim yn cofio bod gymaint o stŵr ynglŷn ag apartheid â beth mae bobl yn ddweud wrth edrych nôl nawr," meddai Gareth Davies.
"Dwi'n cofio gawson ni dipyn o lythyrau gan activists amdano fe yn gofyn i ni ystyried peidio mynd, a dwi'n siŵr bod pawb o' ni wedi meddwl am y peth.
"Ond o'n i wedi whare yn Ne Affrica y flwyddyn gynt gyda Chaerdydd a pan o'n i yno fe wnes i gwrdd â Errol Thobias - ef oedd y person du cyntaf i chware dros Dde Affrica. Roedd e'n falch iawn bod ni mas yna achos dyna'r unig ffordd odd e'n gallu datblygu ei yrfa fe, felly mae dwy ffordd o edrych ar y peth.
"Hefyd, roedd pobl ddu De Affrica'n cefnogi'r Llewod yn erbyn y Springboks, ac roedd y bobl du yn Ne Affrica yn teimlo'n ynysig iawn. Felly efallai oedden ni gyd yn teimlo ychydig yn euog ar un llaw, ond ar y llaw arall yr unig beth oedd chwaraewr rygbi'n cael mas o'r gêm y pryd hynny oedd teithio, gan bod hi'n gêm amatur."
Roedd hi'n daith hir, gyda'r Llewod yn ennill 15 allan o'r 18 gêm chwaraewyd yn Ne Affrica, gan golli tair gêm brawf ac ennill un. Ond mae Gareth Davies yn grediniol y gallai'r daith wedi bod yn un wahanol iawn heb yr holl anafiadau.
"Stori'r daith mewn ffordd oedd yr anafiade'. Os 'se'n tîm cyntaf ni wedi bod yn cwbl iach does dim amheuaeth gen i bydden ni wedi ennill pob gêm ar y daith a bydde'r daith yna'n cael ei gofio fel un o'r teithiau gorau erioed.
"Ond reit o'r dechre cafodd Stuart Lane anaf yn y funud gyntaf o'r gêm gyntaf, a fe oedd yr unig flaenasgellwr agored oedd gennym ni."
Anafu ysgwydd a phen-glin
Cafodd Gareth ei hun ei anafu ar fwy nag un achlysur yn Ne Affrica, y cyntaf yn un o gemau cyntaf y daith.
"Ges i anaf i fy ysgwydd jest cyn hanner amser. O'n i wedi cael dechreuad da gan greu cais, cael cic gosb, gôl adlam a throsiad. Ond ges i dacl hwyr ar fy ysgwydd ac o'n i mas am dair wythnos ac fe gafodd y maswr arall yn y garfan, Ollie Campbell anaf hefyd. Felly roedd rhaid galw am eilydd o faswr o Iwerddon, Tony Ward, ac fe chwaraeodd e yn y prawf cynta'.
"Wedi i'r Llewod golli'r prawf cynta' ges i cwpl o injections yn fy ysgwydd a chwaraeais i ddwy gêm rhwng y prawf cyntaf a'r ail brawf, gan gynnwys gêm fawr yn erbyn Transvaal. Aeth y gêm 'na'n dda a cefais fy newis ar gyfer yr ail brawf yn erbyn Springboks yn Bloemfontein, ac dyna lle 'nes i anafu fy mhen-glin."
Mae Gareth dal i gario'r anafiadau hyn hyd heddiw- mae wedi cael pedair llawdriniaeth i'w ben-glin dros y blynyddoedd ac mae'n aros am ben-glin newydd.
"Dydi taith y Llewod 1980 ddim yn cael ei gofio am lawer i ddweud gwir, oherwydd yr holl anafiadau. Roedd y chwaraewyr eraill a gafodd anafiadau yn cynnwys Fran Cotton (prop Lloegr ar y pryd) a Terry Holmes (mewnwr Cymru)."
Roedd natur gorfforol y Springboks o chwarae a thir caled De Affrica'n ffactorau i esbonio'r holl anafiadau, ond mae gan Gareth Davies ei theori ei hun.
"Dwi ond 'di ystyried hyn yn y blynyddoedd diweddar ond fe aethon ni mas 'na fel chwaraewyr amatur, ac o'dden ni'n meddwl bo' ni'n weddol ffit, yn ymarfer gyda'r clwb gytre a thîm Cymru.
"Ond pan aethon ni mas yna o'dden ni'n ymarfer dwy neu dair gwaith y dydd a mewn pythefnos o'n i wedi rhoi rhwng stôn a hanner stôn o bwysau 'mlaen. Pwysau da oedd e achos o'n i'n bwyta'n dda - llawer gwell na gytre achos newydd adael coleg o'n i.
"A gyda'r holl ymarfer oedden ni'n mynd yn ffit iawn, ac efallai bod ein cyrff ddim yn gallu ymateb yn naturiol i'r pwysau ychwanegol oedden ni 'di rhoi mlaen.
"Dwi'n sylwi dyddiau hyn pan mae chwaraewyr yn ymuno â chlwb newydd a chael rhaglen hyfforddi newydd, yn aml mae eu cyrff nhw'n torri lawr achos gyda anafiade, ac falle dyna beth ddigwyddodd i ni yn Ne Affrica - doedd y gwyddoniaeth ddim yna falle 40 mlynedd yn ôl."
Rhannu stafell gyda Ray
Un o'r chwaraewyr a oedd yn rhannu stafell gyda Gareth yn Ne Affrica oedd y canolwr Ray Gravell.
"Roedd e'n grêt ar un llaw ond yn hunllef mewn ffordd arall, achos oedd rhaid i chi siarad yn bositif gyda Ray drwy'r amser, dweud wrtho fe bod e'n edrych yn iach ac yn ffit."
Roedd Ray Gravell yn enwog am fod yn eitha' ansicr o'i hun, ac yn ôl Gareth roedd hynny'n wir pan oedd ar y cae chwarae.
"Dwi'n cofio yn ystod y gem brawf 'na yn Bloemfontein aeth un o ganolwyr De Affrica drwy'r amddiffyn i sgorio cais. Tu ôl y pyst wedyn fe drodd Ray ata i a dweud 'bai Clive Woodward oedd hwnna ond'ofe, dim fi?' O'n i'n gorfod dweud wrtho fe 'ie bai Clive o'dd e'... 'Sai'n siŵr bai pwy oedd e ddweud gwir - doedd Clive ddim yn deall Cymraeg wrth gwrs."
Mynd adref
"Roedd y bois oedd wedi anafu wedi paratoi i fynd adref ar y dydd Llun ôl yr ail brawf, Terry Holmes yn un ohonyn nhw. Pan chi ar daith y Llewod chi'n casglu lot o anrhegion i ddod adre gyda chi, felly o'n i wedi paratoi bocs i Terry fynd adref ar fy rhan i.
"Ond ges i'r anaf ar y dydd Sadwrn a ges i'r opsiwn i aros mas 'na neu mynd adref gyda nhw - felly penderfynais i fynd nôl achos doeddwn i ddim eisiau bod 'na os o'n i methu helpu mewn unrhyw ffordd."
Aeth Gareth Davies ymlaen i gael gyrfa lwyddiannus ym myd busnes, darlledu, addysg a gydag Undeb Rygbi Cymru.
Ond er ei fod wedi ymddeol o chwarae rygbi ers 35 mlynedd mae ei ben-glin yn ei atgoffa o'r profiad o deithio gyda'r Llewod i Dde Affrica, 41 o flynyddoedd yn ôl.
Hefyd o ddiddordeb: