Byw mewn fan: 'Dyma'r ffordd dw'i isio byw'
- Cyhoeddwyd
"Dwi'm yn byw mewn tŷ so dwi'n aros lle bynnag dwi isio. Os dwi yn teimlo fod hi'n neis aros yn rwla, dyna lle dwi'n aros.
"Fy enw i ydi Paul O'Neill, dwi'n 41 dwi'n meddwl, 40 rwbath eniwe. Bora 'ma dwi'n ista yng Nghricieth yn y fan yn sbio allan dros y môr. Dyma le nes i ista a chysgu neithiwr achos dwi'n byw yn fan fi."
Aeth bywyd Paul O'Neill ar chwâl pan fuodd rhaid iddo symud allan o'i dŷ dair blynedd yn ôl. Bu pethau yn heriol iawn iddo wrth fynd trwy'r newid ac fe gyrhaeddodd pwynt ble ceisiodd ladd ei hun.
Ag yntau wedi bod yn brwydro gyda'i iechyd meddwl ac wedi ystyried hunanladdiad yn gyson ers oedran cynnar daeth y newid ar gefn cyfnod anodd iawn yn ei fywyd. O orfod cau drws y tŷ ar ei ôl a chamu i gefn fan a'r daith sigledig ar hyd y ffordd fe rannodd ei hanes ar gyfres newydd Melin Bupur ar BBC Radio Cymru, dyma yw ei stori.
Cyrraedd y pen
Doedd byw yng nghefn ei fan heb groesi meddwl Paul pan adawodd ei dŷ am y tro olaf. Er ei fod yn awyddus i gael llechen lân fe ddaeth y newid yn sydyn ac nid oedd cynllun ganddo. Yn dilyn fe brofodd cyfnod tywyll iawn yn ei fywyd.
"Ar y dechrau nes i ddim meddwl byw mewn fan… nes i feddwl 'iawn cael gwared â bob dim a chael fresh start, cael bob dim newydd a chychwyn eto… Ond doedd gen i nunlla i fynd so nes i feddwl 'nai gysgu yn y fan a meddwl 'mi neith o am heno' a 'nai sortio rwbath fory," meddai Paul.
"O'n i'n gweithio yn 'neud jobsys yn bob man jest yr un fath, ro'n i yn cysgu ar ben tools fi yr amser yna ac un diwrnod ro'n i yn gwaith a nes i feddwl - stwffia hyn, dwi am ladd fy hun.
"Nes i fynd allan yn gyntaf i gael 'chydig bach o gwrw, bwyd a llwyth o sigaréts. Ro'n i yn gwbod yn union lle o'n i'n mynd, dim brys na dim byd. Nes i roi neges ar Instagram yn deud 'the hardest thing to say is to say goodbye' a meddwl dim byd ohono fo.
"Es i dros y bont i Sir Fôn, munud nesaf roedd 'na cop car o flaen fi, un tu ôl i fi, ac un arall yn tynnu fewn o flaen… wnaethon nhw dynnu fi drosodd, o'n i yn meddwl nai jest deud 'na, dwi jest yn mynd am dro."
Roedd teulu Paul wedi gweld ei neges ar Instagram ac wedi cysylltu â'r heddlu; "Wnaethon nhw gael Section 135 er mwyn mynd a fi i Hergest," meddai Paul.
"Wnaeth rhywun droi rownd a deud 'your way is not working is it?' Wnaeth hynna hitio fi, achos roedd o yn wir, doedd o ddim…"
'Newid bob dim'
Mae Paul wedi bod yn teimlo'n hunanladdol trwy gydol ei fywyd gan feddwl ei fod yn hollol arferol i deimlo felly. Ond wedi'r digwyddiad yma fe benderfynodd fod rhaid iddo newid pethau rhywsut.
"I fod yn onest doedd gen i ddim syniad sut i newid o," meddai Paul.
"Roeddwn i'n deud wrth fy hun reit aml 'I've got a path to walk. I have no idea where the path goes and I have no idea when I'll get there'."
"Nes i newid pob dim yn bywyd fi. Nes i decidio na, dwi ddim yn byw yn tŷ. O'n i'n yfed gormod felly nes i stopio yfed. A nes i ddechrau gweld counsellor.
"O'n i'n gweld counsellor bob diwrnod, wedyn aeth o fynd lawr i bob tri diwrnod, wedyn i unwaith yr wythnos. Wnaeth y medication roedd o'n rhoi i fi stopio fi wneud rwbath stupid ond wnaeth o stopio fi trio symud ymlaen efo bywyd hefyd…"
Dydi Paul heb gymryd meddyginiaeth ers tair blynedd bellach ac er ei fod yn parhau i ddelio gyda'i iechyd meddwl mae o wedi cyrraedd rhywle hapusach. Fe ymrwymodd i fyw bywyd syml ar bedair olwyn ac mae'n teimlo ei fod wedi gwneud y penderfyniad iawn.
"Mae pen fi dal yn bob man, ond dwi yn hapusach achos dwi'n byw'r ffordd dwi'n byw - y ffordd dwi isio byw," meddai Paul.
Helpu dy hun
"Dwi'n ista ar lan y môr yng Nghricieth - yn edrych ar y môr ar awyr. Dyma le nes i aros neithiwr," meddai.
Y noson gynt troed mynydd Moelwyn Mawr uwch ben Blaenau Ffestiniog oedd ei gartref; "Nes i gysgu yn y carpark yng Nghwmorthin a nes i fynd fyny i weld yr haul yn mynd lawr."
Mae gan Paul ddyslecia ac yn ffeindio ysgrifennu a darllen yn anodd. Cafodd hyn effaith fawr ar ei hunanhyder pan oedd yn ifanc a doedd o ddim yn teimlo fod y gefnogaeth ar gael iddo ers talwm. Mae'n gweld fod yr help sydd ar gael i bobl sydd yn dioddef wedi gwella yn aruthrol heddiw.
"Get up and get on with it oedd hi ers talwm," meddai Paul. "Ond dyddiau yma mae pobl yn dallt fod 'na ffasiwn beth â mental health. Ti'n mynd yn ôl deng mlynedd doedd 'na ddim o gwbl.
"Yn ysgol doeddwn i ddim yn teimlo'n ddigon da - ddim cystal â phobl eraill. Dwi 'di mynd trwy fywyd fi yn meddwl bod lladd dy hun yn rhywbeth mae pawb yn meddwl amdano... ond dydi o ddim o gwbl.
"Mae 'na bobl allan yna i helpu… a ti ddim yn gorfod gofyn am help. Maen nhw eisio helpu chdi, ti jest yn gorfod bod yn barod i helpu dy hun achos maen nhw yna i helpu chdi. Ond ti'n gorfod gwneud y gwaith, ti'n gorfod troi fyny. Doeddwn i ddim yn coelio fo fy hun ar y dechrau. Ond nes i 100% commit i drio fo. Mae'r help yna os 'da chi isio fo."
Aros yn y fan
"Mae'r r'un fath heddiw. Mae be' 'ma pobl yn gweld ar y tu allan yn gedru bod yn hollol wahanol i be' sy'n mynd mlaen tu fewn, ond dyna ti'n gorfod dysgu i wneud mewn ffordd. Os mae rwbath yn digwydd ti'm yn licio, ti'm yn deud dim byd - cymryd munud i feddwl amdano fo wedyn dweud rwbath," meddai.
Dydi Paul ddim yn gweld ei hun yn dychwelyd i'r tŷ gan deimlo fod symlder bywyd mewn fan yn galluogi iddo gael rhyddid ac i feddwl am ei lwybr yn well.
"Dwi'm yn gweld fy hun yn byw yn tŷ eto o gwbl. Dwi isio rwbath arall ond dwim yn siŵr be ydi o eto, ond ar y funud dim tŷ ydi o. Mi fyddai'n aros ac yn byw yn y fan.
"Dwi'm yn gweld rheswm i fyw yn tŷ. Mae bob dim dwi angen yn fan fi - os dwi angen rhywbeth mae o yno."
Hefyd o ddiddordeb: